Cam 6. Cynnal eich astudiaeth ymchwil a lledaenu eich canfyddiadaul

Cam 6. Cynnal eich astudiaeth ymchwil a lledaenu eich canfyddiadaul

Gyda chyllid wedi ei sicrhau a’r caniatâd angenrheidiol wedi ei roi, gall eich astudiaeth ymchwil ddechrau.

Ar adegau, bydd gwneud prosiect ymchwil yn anodd ond bydd hefyd yn rhoi boddhad mawr. Yn ystod llinell amser eich prosiect, mae rhai noddwyr ymchwil yn gofyn am adroddiadau neu ddiweddariadau er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’ch cynnydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r dyddiadau cau hyn a’ch bod hefyd yn darparu’r adroddiadau hyn i’ch cyrff ariannu ar amser.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaeth ymchwil byddwch eisiau ei rannu gyda’ch cymheiriaid, aelodau o’r cyhoedd neu wneuthurwyr penderfyniadau. Trwy gyhoeddi eich gwaith, rydych yn galluogi eich hun i gael eich cydnabod fel arbenigwr yn eich maes diddordeb a gallwch hefyd osod y sylfeini ar gyfer cydweithredu ac ymchwil yn y dyfodol.

Dyma rai enghreifftiau o ffyrdd o rannu eich canfyddiadau

Erthyglau Cyfnodolion

Y ffordd fwyaf cyffredin o ledaenu eich canfyddiadau yw ysgrifennu erthygl cyfnodolyn. Bydd eich gwaith yn cael ei adolygu gan gymheiriaid sydd yn arbenigwyr yn y maes â diddordebau tebyg i chi a byddant yn gwneud sylwadau y bydd angen i chi ymdrin â nhw cyn cael eich derbyn.

Bydd cyhoeddi mewn cyfnodolion mynediad agored yn golygu y bydd eich erthygl ar gael ar gyfer pawb, a dylid cynnwys y gost mewn unrhyw gais am gyllid/grant. Mae rhai enghreifftiau o gyfnodolion iechyd y cyhoedd yn cynnwys:

Cynadleddau

Mae llawer o sefydliadau iechyd yn cynnal cynadleddau blynyddol ac yn rhoi cyfleoedd i chi gyflwyno crynodeb a chyflwyno eich gwaith i gymheiriaid â diddordeb. Yn y cynadleddau hyn gallech gael gwahoddiad i roi cyflwyniad llafar neu efallai y gofynnir i chi gyflwyno eich gwaith ar ffurf poster.

  • Gwiriwch a oes gan eich sefydliad unrhyw gynadleddau perthnasol yn y dyfodol agos. Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn aml yn cynnal cynadleddau YaD blynyddol.
  • Mae sefydliadau iechyd y cyhoedd allanol yn aml yn cynnal cynadleddau e.e. Fforwm YaD, Cynhadledd Flynyddol Cyfadran Iechyd y Cyhoedd

Am restr o Gynadleddau Iechyd y Cyhoedd cliciwch yma.

Gallwch hefyd weld pa gynadleddau sydd yn dod trwy fynd i’n tudalen Digwyddiadau

Awgrym defnyddiol: Gall sefydliadau ac elusennau yn aml ddarparu grantiau bach i chi fynychu a chyflwyno eich papur mewn cynadleddau (os yw’n berthnasol i’w nodau) e.e. Ymchwil Alcohol y DU ac Ymchwil Canser y DU

Llwyfannau Rhannu Ar-lein

Dull cynyddol gyffredin o rannu eich gwaith yw trwy sianeli ar-lein. Isod ceir enghreifftiau y gallech eu harchwilio.

  • ResearchGate – safle rhwydweithio i rannu eich papur gyda chydweithwyr
  • Kudos – llwyfan ar-lein i esbonio eich gwaith mewn iaith syml a’i rannu â chynulleidfa ehangach
  • Mae’r Cyfryngau Cymdeithasol (e.e. Twitter, Linkedin) yn ffordd wych o dynnu sylw cynulleidfa ehangach at eich gwaith ymchwil.

Gall blogio fod yn llwyfan arall lle gallwch hyrwyddo eich ymchwil neu brofiadau o wneud astudiaeth ymchwil. Os hoffech bostio blog ar y safle hwn cysylltwch â publichealthwales.research@wales.nhs.uk

Gallwch gyflwyno eitem Newyddion neu Digwyddiad

Os hoffech hyrwyddo eitem ar y wefan hon, cyflwynwch eich cynnwys yma