Datblygu syniad

Gall gymryd blynyddoedd lawer o ddatblygu sgiliau, ymroddiad, profiad ac arbenigedd mewn maes penodol, ynghyd ag ymarfer ysgrifennu grantiau i drawsnewid syniad yn astudiaeth ymchwil cwbl gydweithredol. Fodd bynnag, mae syniad da a brwdfrydedd yn fannau cychwyn allweddol.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol yn ogystal â dolenni ac adnoddau i’ch helpu i ystyried sut i ddatblygu eich syniad yn gwestiwn ymchwil, nodi cyfleoedd cyllid a gwneud ymchwil a chynyddu effaith.  

Cam 1. Meddwl am eich testun ymchwil

Cam 1. Meddwl am eich testun ymchwil

Y cam cyntaf wrth ddatblygu syniad yw archwilio’r ymchwil yn y maes trwy ddarllen o amgylch eich pwnc dewisol yn y llenyddiaeth wyddonol (e.e cyfnodolion cyfredol a chyfnodolion academaidd) a dogfennau polisi cysylltiedig.

Cam 2. Dod o hyd i gydweithredwyr a chynnwys y cyhoedd wrth ddylunio ymchwil

Cam 2. Dod o hyd i gydweithredwyr a chynnwys y cyhoedd wrth ddylunio ymchwil

Cam gwerthfawr yw trafod eich syniad gwybodus gydag eraill sydd â meysydd diddordeb tebyg a gallant helpu i fireinio eich syniad ymhellach a chydweithredu gyda chi.

Cam 3. Diffinio’r cwestiwn ymchwil ac ysgrifennu protocol

Cam 3. Diffinio’r cwestiwn ymchwil ac ysgrifennu protocol

Gan eich bod wedi nodi cydweithredwyr ac wedi ymgysylltu â’r cyhoedd, mae’n amser diffinio eich cwestiwn ymchwil a sut byddwch yn mynd ati i’w archwilio.

Cam 4. Cyllid allanol

Cam 4. Cyllid allanol

Gan eich bod bellach wedi dylunio protocol ymchwil, mae’n amser nodi noddwyr posibl.

Cam 5. Llywodraethu a Chaniatâd Ymchwil

Cam 5. Llywodraethu a Chaniatâd Ymchwil

Cyn i chi ddechrau unrhyw astudiaeth ymchwil mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych yr holl ganiatâd ymchwil.

Cam 6. Cynnal eich astudiaeth ymchwil a lledaenu eich canfyddiadaul

Cam 6. Cynnal eich astudiaeth ymchwil a lledaenu eich canfyddiadaul

Gyda chyllid wedi ei sicrhau a’r caniatâd angenrheidiol wedi ei roi, gall eich astudiaeth ymchwil ddechrau.