Cam 3. Diffinio’r cwestiwn ymchwil ac ysgrifennu protocol

Cam 3. Diffinio’r cwestiwn ymchwil ac ysgrifennu protocol

Gan eich bod wedi nodi cydweithredwyr ac wedi ymgysylltu â’r cyhoedd, mae’n amser diffinio eich cwestiwn ymchwil a sut byddwch yn mynd ati i’w archwilio.

Mae’n bwysig bod eich cwestiwn yn benodol ac yn gryno, ac yn bwysicaf oll, y gellir ei ateb. Er enghraifft, a oes damcaniaeth y credwch y gallwch ei phrofi?

Ysgrifennu protocol

Mae protocol yn ddisgrifiad llawn o’r astudiaeth ymchwil, y rhesymeg, y nodau, a’r dulliau a ddefnyddir. Bydd hefyd yn cynnwys manylion y tîm ymchwil a ddiffinnir, yr adnoddau a’r gyllideb, gyda rhaglen waith glir ar gyfer cyflenwi a chael ei defnyddio i fonitro cynnydd yr astudiaeth ymchwil a gwerthuso’r canlyniadau.

Pethau i’w hystyried wrth ysgrifennu eich protocol

1. A yw’r ymchwil yn syniad da?

  • A yw’r cynnig yn cyflwyno dadl argyhoeddedig ac eglur dros yr angen ar gyfer yr ymchwil i lenwi bylchau mewn gwybodaeth bresennol?
  • A yw’r ymchwil arfaethedig yn mynd i’r afael â’r cwestiynau allweddol yn y maes?
  • A yw nodau ac amcanion yr astudiaeth wedi eu disgrifio a’u hesbonio’n glir?

2. A yw’r dulliau yn gadarn ac yn briodol?

  • A yw’r cynllun a’r dulliau ar gyfer yr astudiaeth arfaethedig wedi eu disgrifio, eu hesbonio a’u cyfiawnhau yn llawn?
  • A ellir cyffredinoli’r canlyniadau neu eu trosglwyddo y tu hwnt i’r lleoliad ymchwil uniongyrchol?
  • A yw’r cynnig yn disgrifio ac yn esbonio ymagwedd yr astudiaeth er mwyn osgoi ffynonellau bias[1] posibl.
  • A all yr astudiaeth arfaethedig fodloni’r gofynion deddfwriaethol a rheoliadol perthnasol?

3. A yw’r astudiaeth yn ymarferol ac yn ddichonadwy?

  • A yw’n bosibl cwblhau’r astudiaeth i’r raddfa amser a ddisgrifir yn y protocol?
  • A yw’n bosibl cwblhau’r astudiaeth gyda’r adnoddau a ddisgrifir yn y protocol?
  • A yw’r gyfradd recriwtio ac olrhain yn realistig? A oes astudiaeth beilot wedi cael ei chynnal i bennu cyfraddau recriwtio tebygol o boblogaethau cymwys?
  • A oes gan ymchwilwyr yr astudiaeth y profiad sydd ei angen i wneud y prosiect ymchwil?
  • A yw’r cynnig yn nodi buddion a chyfyngiadau’r astudiaeth?

Bydd protocol clir a chryno yn helpu i sicrhau y gellir asesu ansawdd gwyddonol y prosiect, a rhoi eglurder ar rôl yr unigolion cysylltiedig.

Mae templedi a chanllawiau defnyddiol ar ddatblygu protocol a phrotocol templed cyffredinol ar gael. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ei Dempled Protocol Ymchwil ei hun ar gyfer ymchwil yn cynnwys staff neu adnoddau sy’n gysylltiedig â’r sefydliad.

Mae deunyddiau cyfeirio eraill i’ch helpu i ysgrifennu eich cynnig yn cynnwys canllawiau’r MRC ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, ac adnoddau y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Gall fod gan sefydliadau ariannu penodol eu gofynion eu hunain am gynigion ymchwil (gweler cam 4).