Cam 5. Llywodraethu a Chaniatâd Ymchwil

Cam 5. Llywodraethu a Chaniatâd Ymchwil

Cyn i chi ddechrau unrhyw astudiaeth ymchwil mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych yr holl ganiatâd ymchwil.

Cefndir i Lywodraethu Ymchwil

Llywodraethu ymchwil yw’r dull systematig o gynnal a gwella ansawdd ymchwil yn y GIG. Gellir ei ddiffinio fel yr ystod eang o reoliadau, egwyddorion a safonau arfer da sy’n bodoli i gyflawni, a gwella ansawdd ymchwil yn barhaus ar draws pob agwedd ar ofal iechyd yn y DU ac yn fyd-eang. Mae mwy o fanylion am ddeddfwriaeth a llywodraethu ymchwil ar gael ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.

Fframwaith Llywodraethu Ymchwil

Mae’n rhaid i’r holl ymchwil sy’n gysylltiedig ag adnoddau’r GIG gydymffurfio â’r fframwaith hwn yn cynnwys:

  • pob ymchwil glinigol ac anghlinigol
  • ymchwil a wnaed gan y GIG neu staff gofal cymdeithasol gan ddefnyddio adnoddau sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
  • ymchwil a wnaed gan ddiwydiant, elusennau, cynghorau ymchwil a phrifysgolion o fewn y systemau iechyd a gofal a allai gael effaith ar ansawdd y gwasanaethau hynny.   

Mae angen y Fframwaith Llywodraethu Ymchwil i:

  1. ddiogelu cyfranogwyr ymchwil
  2. amddiffyn ymchwilwyr/archwilwyr
  3. gwella ansawdd moesegol a gwyddonol
  4. lleihau risg
  5. monitro ymarfer a pherfformiad
  6. hybu arfer da

Cael Caniatâd Ymchwil

Ar gyfer astudiaethau ymchwil yn cynnwys y GIG, mae gwybodaeth ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) yn rhoi manylion cynhwysfawr y caniatâd ymchwil a all fod yn angenrheidiol. Fe’ch cynghorir yn gryf i gyfeirio at y wybodaeth a ddarperir gan yr HRA.

Rydym wedi rhestru’r caniatâd sy’n ofynnol yn fwyaf cyffredin isod.

1. Caniatâd y GIG

Mae hyn yn berthnasol i astudiaethau ymchwil yn y GIG yng Nghymru neu’r Alban, neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) yng Ngogledd Iwerddon. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Ar gyfer ymchwil a wneir yn GIG Cymru, mae’n rhaid i sefydliadau’r GIG roi caniatâd cyn i’r ymchwil ddechrau. Mae Gwasanaeth Caniatâd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn derbyn pob cais ar gyfer ymchwil y GIG yng Nghymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Am ymchwil yn ymwneud â’r GIG yng Nghymru, mae Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi cyngor a chymorth annibynnol ar y graddau y mae cynigion ar gyfer ymchwil yn cydymffurfio â safonau moesegol. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Cael Cymeradwyaeth Foesegol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu dudalen Awdurdod Ymchwil Iechyd y Pwyllgor Moeseg Ymchwil ar y we.

Os ydych yn gweithio yn y GIG yn Lloegr gweler y wybodaeth ar Gymeradwyaeth HRA yma.

2. Pwyllgor Moeseg Ymchwil (REC)

Gall fod angen adolygiad moesegol cyn dechrau eich astudiaeth ymchwil, yn dibynnu ar y math o ymchwil sy’n cael ei gynnig.  Am fwy o wybodaeth, ewch i  dudalen Cael Cymeradwyaeth Foesegol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu dudalen Pwyllgor Moeseg Ymchwil yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ar y we.

3. Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd (CAG)

Dylech wneud cais i’r CAG os ydych yn bwriadu defnyddio gwybodaeth gyfrinachol cleifion heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr. Bydd angen i chi wneud cais p’un ag yw eich prosiect yn cael ei reoli fel ymchwil neu brosiect nad yw’n ymchwil. Am fwy o wybodaeth ac arweiniad, ewch i dudalen yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ar y we.

Mwy o wybodaeth a chymorth

Os ydych yn gwneud ymchwil fel rhan o leoliad prifysgol, cysylltwch ag adran YaD eich Prifysgol am fwy o wybodaeth. Os ydych yn gweithio i’r GIG bydd eich swyddfa YaD lleol yn gallu eich helpu gydag unrhyw ymholiadau.