Cam 4. Cyllid allanol

Cam 4. Cyllid allanol

Gan eich bod bellach wedi dylunio protocol ymchwil, mae’n amser nodi noddwyr posibl.

Mae nifer o sefydliadau (elusennol ac wedi eu hariannu gan y llywodraeth) sy’n rhyddhau amrywiaeth o alwadau cyllid trwy gydol y flwyddyn er mwyn datblygu’r dystiolaeth sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau ar bob lefel. Ceir enghreifftiau o noddwyr sy’n rhyddhau galwadau cyllid yn rheolaidd isod, ond nid yw hyn yn gynhwysfawr.

Gelwir rhai o’r cyfleoedd hyn yn ‘Alwadau wedi eu Comisiynu’ sy’n golygu y bydd cwestiwn/testun penodol y mae angen ei ateb.

Wales

Corff ariannu allweddol yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n darparu nifer o gyfleoedd ariannu yn cynnwys:

  • Dyfarniad Cymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol 
  • Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd 
  • Dyfarniad Amser Ymchwil Clinigol

Am fwy o wybodaeth a dyddiadau pob cynllun ymchwil a noddir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru cliciwch yma

Mae cyfleoedd ymchwil eraill yng Nghymru yn cynnwys:

Unwaith eto os ydych yn rhan o’r GIG, gallwch gysylltu â’ch Swyddfa YaD leol all roi gwybodaeth a chyngor i chi am unrhyw alwadau am gyllid neu ar gyfer derbyn hysbysiadau cyllid gan sefydliadau allweddol.

DU

Mae cyfleoedd cenedlaethol yn cynnwys Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), sefydliad blaenllaw yn ariannu ymchwil y GIG, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd yn y DU. Mae galwadau amrywiol am gyllid ar gael, rhai treigl yn aml e.e. Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd (HTA), Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd (PHR) a’r Rhaglen Gwerthuso Effeithiolrwydd a Mecanwaith (EME).

Mae eraill yn cynnwys y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC)  a ariennir trwy gyllideb gwyddoniaeth ac ymchwil y llywodraeth, sy’n buddsoddi mewn ymchwil iechyd; a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sydd yn canolbwyntio ar ymchwil economaidd a/neu gymdeithasol.

Mae sefydliadau elusennol fel Ymddiriedolaeth Wellcome  yn cynnig cyfleoedd ariannu, yn yr un modd ag elusennau ar gyfer cyflyrau gwahanol fel Diabetes UK, Cymdeithas Alzheimer, Ymchwil Canser y DU ac Ymchwil Alcohol y DU.

Rhyngwladol
Mae cyfleoedd ymchwil rhyngwladol yn cynnwys Horizon 2020 sef rhaglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf yr UE sy’n agored i bawb. Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am alwadau cyllid Horizon 2020 cliciwch yma.

Mae Cynghorau Ymchwil y DU hefyd yn cefnogi cydweithrediadau rhyngwladol ac yn ariannu cynigion ymchwil rhyngwladol tra bod rhai cyrff ariannu yn UDA fel Sefydliadau Cenedlaethol Iechyd yn rhoi cyfleoedd i ymchwilwyr y DU heb fod angen cydweithredu.

Am restr o’r galwadau cyllid blynyddol cliciwch yma.

Cyllid PhD cliciwch yma

Am alwadau cyllid i ddod ewch i’n tudalen Newyddion a Chyllid

Adolygu Cymheiriaid

Os cawsoch gyllid mewnol ar gyfer eich prosiect ymchwil lle nad oedd angen adolygu eich protocol, gall fod angen i chi sicrhau bod eich protocol yn cael ei adolygu gan gymheiriaid ynghyd â phob caniatâd arall sy’n ofynnol (cam 5).  Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, mae’n well trafod gyda’ch Swyddfa YaD Lleol.