Chynnwys y Cyhoedd

Mae aelodau o’r cyhoedd (e.e. cleifion, cleifion posibl, defnyddwyr y gwasanaeth neu aelodau o’r cyhoedd) yn chwarae rhan arwyddocaol mewn ymchwil. 

Mae buddion posibl ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd yn effeithiol o ddechrau eich ymchwil fel a ganlyn:

  • Rhoi cyfle i ddefnyddio ystod ehangach o gyllid ymchwil. Mae’r rhan fwyaf o’r prif noddwyr yn gofyn am fanylion cynnwys y cyhoedd mewn ceisiadau cyllid ar gyfer ymchwil.
  • Cyfle i gael profiad gan rywun sydd â’r cyflwr iechyd /yn cymryd rhan mewn ymddygiad penodol/ wedi cael cyswllt â’r perygl penodol i iechyd sy’n cael ei ymchwilio.
  • Helpu’r iaith a ddefnyddir mewn dogfennau ymchwil i fod yn fwy priodol a hygyrch, er enghraifft Taflenni Gwybodaeth i Gyfranogwyr.
  • Sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir yn dderbyniol ac yn sensitif i ymatebwyr posibl.
  • Sicrhau bod y canlyniadau ymchwil sy’n cael eu mesur yn bwysig i’r boblogaeth sy’n cael eu hymchwilio a’r cyhoedd ehangach.
  • Helpu i wneud ymchwil yn fwy perthnasol trwy awgrymu syniadau newydd ar gyfer ymchwil a sicrhau bod arian ac adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol.

Telerau allweddol

Cynnwys y cyhoedd: mae aelodau o’r cyhoedd yn rhan weithredol o gyfnodau’r broses ymchwil. Mae enghreifftiau o hyn fel a ganlyn:

  • cyfranogiad yn nyluniad yr ymchwil a chwestiynau ymchwil
  • eistedd ar grŵp llywio prosiect
  • mewnbwn i ddatblygu gwybodaeth cyfranogwyr
  • cynigion prosiect adolygu cymheiriaid mewn ceisiadau am grant.

Ymgysylltu’r cyhoedd: gwybodaeth am ymchwil yn cael ei darparu a’u lledaenu i’r cyhoedd, ond lle mae’r cyhoedd yn gweithio gydag ymchwilwyr i helpu i gynllunio eu cynlluniau lledaenu er mwyn gwella effaith yr ymchwil.  Mae enghreifftiau o ymgysylltu’r cyhoedd fel a ganlyn:

  • cynnal gwyliau gwyddoniaeth neu ddigwyddiadau hyrwyddo sy’n agored i’r cyhoedd gyda gwybodaeth, dadleuon a thrafodaethau ar ymchwil
  • cynnal diwrnod agored mewn canolfan ymchwil lle mae aelodau o’r cyhoedd yn cael gwahoddiad i ganfod am yr ymchwil
  • digwyddiadau’r cyfryngau cymdeithasol
  • lledaenu i gyfranogwyr ymchwil ar ganfyddiadau astudiaeth.

Cynnwys y cyhoedd: recriwtio’r cyhoedd yn eich ymchwil fel cyfranogwyr neu ymatebwyr.  Er enghraifft:

  • Llenwi holiadur fel rhan o’r ymchwil
  • Cymryd rhan mewn grŵp ffocws neu gyfweliad

Cymryd rhan mewn ymyrraeth fel rhan o Hap-dreial wedi ei Reoli (RCT).

Dolenni ac adnoddau


Mae'r digwyddiad hwn wedi dod o wefan allanol ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Why Get Involved in Research?

This film,aimed at members of the public, highlights why research is important. It provides several options of how you can use your voice to make a difference to health and social care research. Finally, it provides contact information on how members of the public can get involved in research in Wales.

Public Involvement in Research:

This film, aimed at researchers, highlights some of the many benefits of involving the public in research. It describes ways in which you can involve the public in the research cycle and effectively signposts researchers to the support, guidance and resources available in Wales.

These films were produced by Cardiff University School of Medicine (www.cardiff.ac.uk/medicine) supported by an award from the Wellcome Trust ISSF Fund.