Cefnogi iechyd a llesiant meddwl ffermwyr trwy gyfnodau heriol

22-05-20

Farming report wel.JPGMae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi llesiant meddwl ffermwyr yng Nghymru. Y llynedd, daeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Iechyd Meddwl, â safbwyntiau ynghyd ar draws cymunedau ffermio Cymru gyda'r dystiolaeth ryngwladol ar sut i gefnogi llesiant meddwl ffermwyr a chymunedau ffermio yng Nghymru.  Roedd yr adroddiad, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o'r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu heddiw, ynghyd â'u barn ar lesiant meddwl yng Nghymru.

Tynnwyd sylw yn yr ymchwil at yr angen i amddiffyn yn well yn erbyn effeithiau ansicrwydd mewn busnesau ffermio ar lesiant, ac i hybu iechyd a llesiant meddwl ffermwyr a chymunedau ffermio, drwy godi ymwybyddiaeth, normaleiddio iechyd meddwl mewn amaethyddiaeth yng Nghymru, a rhaglenni allgymorth yn integreiddio iechyd meddwl i mewn i ddiwylliant ffermio. 

Ers hynny, rydym wedi parhau i weithio gyda phartneriaid i dynnu sylw at iechyd meddwl ffermwyr ac ymateb yn well iddo. Rydym wedi datblygu rhaglenni ymchwil ar y cyd i feithrin dealltwriaeth gadarnach o effaith yr heriau hyn ar iechyd a llesiant ac i werthuso'r hyn sy'n gweithio i gefnogi ffermwyr yng Nghymru. 

Cafodd yr adroddiad ei gynnal yng nghyd-destun Brexit, ond mae'n berthnasol iawn i'r sector amaethyddiaeth, ffermwyr a'u cymunedau heddiw. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gall profi cyfnodau o ansicrwydd, fel y rhai a wynebwn o ganlyniad i'r pandemig COVID-19 presennol, effeithio nid yn unig ar fusnes ffermio ac amgylchiadau ariannol, ond hefyd ar iechyd a llesiant meddwl a'u teuluoedd.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr adroddiad llawn isod, a'r adnoddau llesiant meddyliol sydd ar gael ar-lein yn ICC neu FarmWell

Adrod Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd