Allwn ni gyfuno cefnogaeth ac anghenion yn well mewn ymateb i COVID-19?

3-06-20

Mae’r cyfyngiadau symud sydd ar waith ar draws llawer o wledydd, yn cynnwys Cymru, i reoli pandemig y Coranofeirws, wedi golygu bod llawer o bobl wedi wynebu’r posibilrwydd o beidio cael mynediad at fwyd, meddyginiaethau a ffynonellau cymorth cymdeithasol hanfodol. Mae hyn yn arbennig o wir am y rheiny sydd mewn mwy o berygl mewn cymdeithas a’r rheiny sydd wedi eu hynysu’n fwy yn gymdeithasol.

Gyda hyn, rydym wedi gweld ymchwydd mewn cymorth cymunedol gan eraill sydd eisiau helpu, gyda dwbl y gwirfoddolwyr yn cofrestru gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru ers mis Mawrth 2020, yn cefnogi eu cymunedau lleol naill ai trwy ddod ynghyd, cydlynu ymdrechion trwy’r cyfryngau cymdeithasol, neu wrth alinio sefydliadau llawr gwlad presennol i Ymateb-COVID.

Ond, mae angen i’r sefydliadau hyn, a sefydliadau’r sector cyhoeddus, ddeall yn well ble i osod adnoddau cyfyngedig i gefnogi’r rheiny sydd â’r angen mwyaf.

I fynd i’r afael â’r her hwn, mae cydweithrediad rhwng Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Epidemioleg Cyfannol MRC ym Mhrifysgol Bryste a Sefydliad Alan Turing, wedi mapio gwybodaeth am fod mewn perygl (yn cynnwys data ar ddosbarthu achosion COVID-19 a nifer y bobl sydd â risg uwch) a lefelau cymorth cymunedol o dan arweiniad dinasyddion (a nodir trwy ffynonellau’r cyfryngau cymdeithasol, cymunedau hunan-drefnu a sefydliadau’r trydydd sector) ar draws Cymru.

 

Wales Community Map.PNG


Mae Map Ymateb COVID Cymru wedi cael ei ddylunio i nodi meysydd lle mae mwy o bobl a allai fod mewn mwy o berygl o COVID-19, lle mae llai o gymorth cymunedol o bosibl. Er nad yw’r map yn cyfleu’r holl gymorth cymunedol, nac yn awgrymu bod pob grŵp sydd mewn perygl angen cymorth, gall helpu i hysbysu’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a’r sector cyhoeddus pa ardaloedd allai elwa ar gymorth ychwanegol. Mae hefyd yn darparu’r dolenni i’r grwpiau cymunedol lleol a nodir sydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael yn lleol.

Gall dealltwriaeth well o gymorth wedi ei arwain gan y gymuned helpu i dargedu’r adnoddau cenedlaethol a rhanbarthol cyfyngedig sydd yn cefnogi unigolion a chartrefi sydd mewn perygl yn ystod pandemig COVID-19..
 
NODER:  

  • Hoffem glywed eich safbwyntiau am y ffordd y gall hyn fod yn fwy defnyddiol, neu ffynonellau data symudiadau cymunedol a allai gael eu cynnwys. Cysylltwch â ni yn icc.ymchwil@wales.nhs.uk. Os ydych yn grŵp cymunedol ac eisiau cael eich cynnwys, cofrestrwch eich grŵp gyda COVID-19 Mutual Aid.
  • Mae’r côd a ddefnyddir i greu’r map wedi cael ei gyhoeddi’n agored ar  GitHub er mwyn gallu ei atgynhyrchu. Mae gwybodaeth lawn am y ffynonellau data ar fod mewn perygl a chymorth cymunedol wedi ei chofnodi ar yr Open Science Framework a bydd y map yn cael ei ddiweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael.