Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd

Closing date: 27 November 2019

Nod y Gymrodoriaeth yw rhoi cymorth i unigolion ddod yn ymchwilwyr annibynnol drwy arwain a chyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r Gymrodoriaeth yn cynnig ariannu tair blynedd amser llawn (neu bedair neu bum mlynedd rhan amser), i unigolion sydd â dim mwy na 60 mis o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol (cyfwerth ag amser llawn) adeg gwneud cais.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth wyddonol, neu ddisgyblaeth sy'n ymwneud ag iechyd, i ymgymryd ag ymchwil y gellir dangos y manteision a ddaw ohoni ym maes iechyd cyhoeddus a'r gwasanaeth iechyd, neu ym maes polisi, ac a fydd yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymchwil iechyd.

Disgwylir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad clir i ddilyn gyrfa ym maes ymchwil, a sut y bydd y cyllid yn cryfhau eu potensial i fod yn ymchwilydd annibynnol. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ystyried bod hon yn gymrodoriaeth hyfforddi, ac felly dylai ceisiadau ddisgrifio rhaglen datblygu a hyfforddiant gynhwysfawr y bydd y sefydliad lletyol yn ei darparu i fodloni anghenion hyfforddi penodol a fydd yn arwain at statws ymchwilydd annibynnol.

Bydd y Gymrodoriaeth yn cefnogi ymchwil gwasanaethau iechyd drosiadol i ymchwil gymhwysol, gan gynnwys ymchwil atal ac iechyd poblogaeth, a phynciau sy'n berthnasol i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Hefyd mae prosiectau'n gymwys os ydynt yn canolbwyntio ar waith peilot a dichonoldeb, neu gamau cynnar yn y gwaith o ddatblygu ymyraethau, lle y bydd yr wybodaeth a geir o'r astudiaethau cychwynnol hyn yn gweithredu fel sail i geisiadau mwy yn y dyfodol.

Dylai pob ymgeisydd, gan gynnwys y rhai sy'n dymuno gwneud ymchwil drosiadol gynharach, nodi'n glir effaith debygol ei gasgliadau yn y tymor byr i'r tymor canolig, gan egluro sut y byddant yn arwain at welliannau mewn gofal iechyd neu sut y byddant o fudd i gleifion a'r cyhoedd.

Dylai ymgeiswyr nodi hefyd y broses newydd ar gyfer Costau Cymorth a Thriniaeth dros ben. Ers mis Hydref 2018, mae'r ofynnol i ymchwilwyr sy'n gwneud cais am grantiau ymchwil clinigol penodol gwblhau templed sy'n nodi amserlen digwyddiadau a chostau (Schedule of Events Cost Attribution Template (SoECAT) fel rhan o'r broses o ymgeisio am grant. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn nogfennau canllaw'r alwad.

Cael gwybod mwy

health-care.jpg