Cam 5. Llywodraethu a Chaniatâd Ymchwil
Cyn i chi ddechrau unrhyw astudiaeth ymchwil mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych yr holl ganiatâd ymchwil.
Cefndir i Lywodraethu Ymchwil
Llywodraethu ymchwil yw’r dull systematig o gynnal a gwella ansawdd ymchwil yn y GIG. Gellir ei ddiffinio fel yr ystod eang o reoliadau, egwyddorion a safonau arfer da sy’n bodoli i gyflawni, a gwella ansawdd ymchwil yn barhaus ar draws pob agwedd ar ofal iechyd yn y DU ac yn fyd-eang. Mae mwy o fanylion am ddeddfwriaeth a llywodraethu ymchwil ar gael ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.
Fframwaith Llywodraethu Ymchwil
Mae’n rhaid i’r holl ymchwil sy’n gysylltiedig ag adnoddau’r GIG gydymffurfio â’r fframwaith hwn yn cynnwys:
- pob ymchwil glinigol ac anghlinigol
- ymchwil a wnaed gan y GIG neu staff gofal cymdeithasol gan ddefnyddio adnoddau sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- ymchwil a wnaed gan ddiwydiant, elusennau, cynghorau ymchwil a phrifysgolion o fewn y systemau iechyd a gofal a allai gael effaith ar ansawdd y gwasanaethau hynny.
Mae angen y Fframwaith Llywodraethu Ymchwil i:
- ddiogelu cyfranogwyr ymchwil
- amddiffyn ymchwilwyr/archwilwyr
- gwella ansawdd moesegol a gwyddonol
- lleihau risg
- monitro ymarfer a pherfformiad
- hybu arfer da
Cael Caniatâd Ymchwil
Ar gyfer astudiaethau ymchwil yn cynnwys y GIG, mae gwybodaeth ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) yn rhoi manylion cynhwysfawr y caniatâd ymchwil a all fod yn angenrheidiol. Fe’ch cynghorir yn gryf i gyfeirio at y wybodaeth a ddarperir gan yr HRA.
Rydym wedi rhestru’r caniatâd sy’n ofynnol yn fwyaf cyffredin isod.
1. Caniatâd y GIG
Mae hyn yn berthnasol i astudiaethau ymchwil yn y GIG yng Nghymru neu’r Alban, neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) yng Ngogledd Iwerddon. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Ar gyfer ymchwil a wneir yn GIG Cymru, mae’n rhaid i sefydliadau’r GIG roi caniatâd cyn i’r ymchwil ddechrau. Mae Gwasanaeth Caniatâd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn derbyn pob cais ar gyfer ymchwil y GIG yng Nghymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Am ymchwil yn ymwneud â’r GIG yng Nghymru, mae Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi cyngor a chymorth annibynnol ar y graddau y mae cynigion ar gyfer ymchwil yn cydymffurfio â safonau moesegol. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Cael Cymeradwyaeth Foesegol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu dudalen Awdurdod Ymchwil Iechyd y Pwyllgor Moeseg Ymchwil ar y we.
Os ydych yn gweithio yn y GIG yn Lloegr gweler y wybodaeth ar Gymeradwyaeth HRA yma.
2. Pwyllgor Moeseg Ymchwil (REC)
Gall fod angen adolygiad moesegol cyn dechrau eich astudiaeth ymchwil, yn dibynnu ar y math o ymchwil sy’n cael ei gynnig. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Cael Cymeradwyaeth Foesegol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu dudalen Pwyllgor Moeseg Ymchwil yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ar y we.
3. Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd (CAG)
Dylech wneud cais i’r CAG os ydych yn bwriadu defnyddio gwybodaeth gyfrinachol cleifion heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr. Bydd angen i chi wneud cais p’un ag yw eich prosiect yn cael ei reoli fel ymchwil neu brosiect nad yw’n ymchwil. Am fwy o wybodaeth ac arweiniad, ewch i dudalen yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ar y we.
Mwy o wybodaeth a chymorth
Os ydych yn gwneud ymchwil fel rhan o leoliad prifysgol, cysylltwch ag adran YaD eich Prifysgol am fwy o wybodaeth. Os ydych yn gweithio i’r GIG bydd eich swyddfa YaD lleol yn gallu eich helpu gydag unrhyw ymholiadau.