Cam 2. Dod o hyd i gydweithredwyr a chynnwys y cyhoedd wrth ddylunio ymchwil
Cam gwerthfawr yw trafod eich syniad gwybodus gydag eraill sydd â meysydd diddordeb tebyg a gallant helpu i fireinio eich syniad ymhellach a chydweithredu gyda chi.
Gallai hyn gynnwys cydweithwyr, academyddion sydd wedi cyhoeddi yn y maes hwn, rhwydweithiau lleol a chenedlaethol eraill fel y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) sydd â rhwydwaith o fwy na 75 o ymchwilwyr ar draws canolfannau academaidd lluosog yng Nghymru. Ar gyfer prosiectau Ewropeaidd mwy, ceir y Porth Cyfranogwyr y gallwch ymuno ag ef i chwilio am gydweithredwyr posibl.
Os ydych yn gweithio yn y GIG, gallwch bob amser ofyn am gymorth gan eich Swyddfa YaD leol a ddylai allu rhoi cysylltiadau defnyddiol i chi sydd naill ai’n glinigwyr neu’n ymchwilwyr. Gallwch hefyd ddymuno cysylltu â’ch Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil (RDCS) am gyngor (mae’r canolfannau rhanbarthol wedi eu rhestru isod)
Gallwch gysylltu ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru os ydych yn dymuno trafod cyfleoedd cydweithredu gyda diwydiant.
Bydd ymgysylltu’n gynnar ag aelodau o’r cyhoedd, neu gleifion, hefyd yn helpu i ddatblygu eich syniadau ymchwil ac yn sicrhau’r budd mwyaf i’r rheiny a allai gael eu heffeithio. Cyfeirir at hyn fel arfer fel cynnwys y cyhoedd a chleifion (PPI) a cheir dolenni defnyddiol ar Dudalen Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd.
Dwy enghraifft o grwpiau PPI y gallech ddymuno cysylltu â nhw yw Rhwydwaith Cynnwys Pobl (a drefnir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru) neu grŵp cynghori INVOLVE (a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd).
Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod rhai ffynonellau cyllid (Cam 4. Cyllid allanol) yn gofyn am dystiolaeth o PPI pan fyddwch yn cyflwyno prosiect ymchwil/cais am grant.