Cam 1. Meddwl am eich testun ymchwil
Y cam cyntaf wrth ddatblygu syniad yw archwilio’r ymchwil yn y maes trwy ddarllen o amgylch eich pwnc dewisol yn y llenyddiaeth wyddonol (e.e cyfnodolion cyfredol a chyfnodolion academaidd) a dogfennau polisi cysylltiedig. Bydd hyn yn eich galluogi i ddeall yn well yr hyn sydd eisoes yn hysbys, a’ch helpu i nodi bylchau yn y sail wybodaeth, a mireinio eich syniadau ymchwil.
Mae rhai o’r adnoddau mwyaf defnyddiol i’w defnyddio yn cynnwys Google Scholar, Pubmed, Llyfrgell Cochrane, CINAHL (Gweithwyr nyrsio proffesiynol a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd), a OpenSIGLE (Llenyddiaeth lwyd Ewropeaidd) yn ogystal â llyfrgelloedd cyfnodolion gan noddwyr academaidd fel NIHR. Mae rhai safleoedd am ddim; mae eraill ar sail tanysgrifio sefydliadol y gallech gael mynediad iddynt trwy eich sefydliad.
Bydd adolygu’r llenyddiaeth ar draws eich maes diddordeb o gymorth i chi ddatblygu cwestiwn ymchwil wedi ei lywio gan dystiolaeth i’w ddwyn ymlaen.
Ymchwil neu werthuso?
Cwestiwn cyffredin yw “Ai ymchwil neu werthusiad yw hwn?” Yn y GIG gall y diffiniadau hyn fod ychydig yn wahanol i’r rheiny yr ydych yn gyfarwydd â nhw (gweler isod). Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) wedi datblygu offeryn penderfynu ar-lein a all eich helpu i benderfynu a yw eich cynnig yn cael ei ystyried yn ymchwil neu beidio.
Ymchwil: Yn y GIG, caiff ymchwil ei diffinio fel yr ymgais i darddu gwybodaeth newydd y gellir ei chyffredinoli (h.y. o werth i eraill mewn sefyllfa debyg) yn erbyn cwestiynau ymchwil wedi eu diffinio’n glir, yn cynnwys astudiaethau gyda’r nod o greu damcaniaethau yn ogystal ag astudiaethau sy’n ceisio eu profi. Gwneir hyn trwy ddulliau systematig a thrwyadl, sydd yn addas at y diben. Mae hyn yn cwmpasu diffiniad eang o ymchwil, yn cynnwys e.e. ymchwil ansoddol a meintiol, astudiaethau arsylwadol, epidemiolegol ac arbrofol.
Gwerthusiad: Yn y GIG, gellir ystyried gwerthusiad fel archwiliad systematig o effeithiau bwriadol ac anfwriadol rhaglen a’i photensial (goblygiadau) ar gyfer gwella. Mae hyn yn wahanol i ddiffiniad y GIG o werthuso gwasanaeth sydd wedi ei ddylunio i ateb y cwestiwn "pa safon mae’r gwasanaeth hwn yn ei gyflawni?"