Cam 1. Meddwl am eich testun ymchwil
Y cam cyntaf wrth ddatblygu syniad yw archwilio’r ymchwil yn y maes trwy ddarllen o amgylch eich pwnc dewisol yn y llenyddiaeth wyddonol (e.e cyfnodolion cyfredol a chyfnodolion academaidd) a dogfennau polisi cysylltiedig.
Cam 2. Dod o hyd i gydweithredwyr a chynnwys y cyhoedd wrth ddylunio ymchwil
Cam gwerthfawr yw trafod eich syniad gwybodus gydag eraill sydd â meysydd diddordeb tebyg a gallant helpu i fireinio eich syniad ymhellach a chydweithredu gyda chi.
Cam 3. Diffinio’r cwestiwn ymchwil ac ysgrifennu protocol
Gan eich bod wedi nodi cydweithredwyr ac wedi ymgysylltu â’r cyhoedd, mae’n amser diffinio eich cwestiwn ymchwil a sut byddwch yn mynd ati i’w archwilio.
Cam 4. Cyllid allanol
Gan eich bod bellach wedi dylunio protocol ymchwil, mae’n amser nodi noddwyr posibl.
Cam 5. Llywodraethu a Chaniatâd Ymchwil
Cyn i chi ddechrau unrhyw astudiaeth ymchwil mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych yr holl ganiatâd ymchwil.
Cam 6. Cynnal eich astudiaeth ymchwil a lledaenu eich canfyddiadaul
Gyda chyllid wedi ei sicrhau a’r caniatâd angenrheidiol wedi ei roi, gall eich astudiaeth ymchwil ddechrau.