Blaenoriaethau Strategol

Uchelgais Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sicrhau Cymru iachach, hapusach a thecach drwy gydweithio ag amrywiol bartneriaid. Mae hyn yn cynnwys grymuso pobl i amddiffyn a gwella’u hiechyd a’u lles hwy eu hunain a lleihau anghydraddoldebau trwy ymgysylltu, hysbysu, cynghori a siarad ar eu rhan. 

Cynllun strategol y sefydliad ar gyfer 2017-2020: 


Blaenoriaethau strategol a rennir ar gyfer ymagwedd integredig tuag at iechyd y cyhoedd ar draws GIG Cymru:
  • Gw eithio ar y cyd a darparu arweinyddiaeth i'r system er mwyn gwella iechyd ein problogaeth
  • Gweithio ar draws sectorau i wella iechyd a lles ein plant i’r dyfodol
  • Datblygu a chefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol i wella iechyd y cyhoedd
  • Cynorthwyo’r GIG i wella canlyniadau gofal iechyd ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau
Blaenoriaethau strategol sy’n benodol i Iechyd Cyhoeddus Cymru:
  • Dylanwadu ar bolisïau i ddiogelu a gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau
  • Diogelu’r cyhoedd a pharhau i wella ansawdd, diogelwch ac effeithiolrydd y gwasnaethau yr ydym yn eu darparu
  • Datblygu'r sefydliad i fod y gorau y gall fod

Strategaeth Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn ddiweddar, datblygodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei Strategaeth Ymchwil. Mae hyn yn amlinellu’r ymrwymiadau i Iechyd Cyhoeddus Cymru feithrin diwylliant sy’n weithredol o ran ymchwil, a chyda phartneriaid allanol er mwyn annog creu syniadau ymchwil newydd a datblygu ymchwil o ansawdd uchel.  Yn ogystal â chynorthwyo staff i ddatblygu a chryfhau eu sgiliau a’u galluoedd ymchwil i ddefnyddio ymchwil yn effeithlon ac yn effeithiol wrth ymarfer o ddydd i ddydd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu a chymryd rhan mewn ymchwil o ansawdd uchel:

  • Y disgwylir y bydd yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau iechyd y cyhoedd.
  • A wneir mewn ffordd foesegol ac sydd yn unol â’r caniatâd ymchwil priodol.
  • Sy’n berthnasol i flaenoriaethau ymchwil presennol ac yn denu’r cyllid priodol.
  • Sy’n defnyddio ystod o ddulliau priodol at ddiben yr ymchwil (yn cynnwys dulliau meintiol, ansoddol a chymysg).
  • Sy’n meithrin cydweithrediadau ymchwil yn fewnol ac yn allanol ar draws asiantaethau, disgyblaethau a gwaith partneriaeth gwahanol gydag adrannau’r llywodraeth lle y bo’n bosibl.
  • Sy’n cael ei gwneud yn gydweithredol gyda’r rheiny y mae’n debygol y byddant yn cael eu heffeithio gan yr ymchwil a thrwy gysylltu ymchwilwyr â gwneuthurwyr polisïau, ymarferwyr a’r cyhoedd.
  • Sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru fel yr amlinellir yng Nghynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Er mwyn cyflenwi’r Strategaeth Ymchwil, bydd y sylw’n canolbwyntio ar bedwar prif faes:

  1. Datblygu a chefnogi gallu ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  2. Hwyluso’r gwaith o greu gwybodaeth newydd.
  3. Cryfhau ein hymgysylltu cyhoeddus yn ogystal â chydweithrediadau gyda sefydliadau academaidd, sefydliadau’r GIG yng Nghymru, y trydydd sector ac asiantaethau eraill â diddordeb ehangach mewn ymchwil iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
  4. Cynyddu proffil ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy gyfathrebu’n eang gyda’n rhanddeiliaid a hybu’r gwaith o droi ymchwil yn bolisi ac yn ymarfer iechyd y cyhoedd.