Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi adroddiad newydd ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru
13-09-17
Mae Rhwydwaith Tystiolaeth Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO HEN)1 a Swyddfa Ewropeaidd Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad2 wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant’ mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.3
Wedi ei gynhyrchu gan Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r adroddiad yn rhoi’r dystiolaeth ddiweddaraf ar yr elw cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf diweddar mewn polisïau iechyd y cyhoedd yn Rhanbarth Ewrop.
Mae’r adroddiad yn cynnig fframwaith trosfwaol ar gyfer buddsoddiadau ar gyfer iechyd a llesiant i amlinellu’r rhyng-gysylltiadau rhwng iechyd a datblygu cynaliadwy.
Gan ddefnyddio ymagwedd elw cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI), mae’r dystiolaeth a gasglwyd wedi arwain at dri chanfyddiad allweddol:
-
Nad yw ‘busnes fel arfer’ yn gynaliadwy
-
Mae buddsoddi mewn polisïau iechyd y cyhoedd yn rhoi atebion effeithiol, effeithlon, cynhwysol ac arloesol ac yn ysgogi cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
- Mae buddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant yn ysgogwr ac yn galluogi datblygu cynaliadwy ac i’r gwrthwyneb.
Mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i lywio Map ffordd4 er mwyn gweithredu Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy,5 ac mae’n datblygu strategaeth iechyd a fframwaith polisi Ewropeaidd WHO, Iechyd 2020.6 Bydd y Map ffordd yn cael ei gymeradwyo yn 67fed Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop WHO yr wythnos hon yn Budapest, Hwngari.
Dywedodd Dr Christoph Hamelmann, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad:
Mae tystiolaeth gref yn awgrymu bod buddsoddi mewn iechyd y cyhoedd yn gwella cyfalaf dynol a chymdeithasol, yn ysgogi cadernid a thwf economaidd teg, a’i fod o fudd i’n planed, ein diogelwch, ein ffyniant a’n heddwch, gan alluogi ac ysgogi datblygu cynaliadwy.
“Mae gan Aelod-Wladwriaethau Ewropeaidd WHO gyfle unigryw i gyflawni eu hamcanion datblygu trwy weithredu dros fuddsoddi’n seiliedig ar hawliau, gwerth a thystiolaeth ar gyfer iechyd a llesiant, gan gyflawni’r safon iechyd uchaf posibl i bawb o bob oed.”
Mae’r adroddiad yn crynhoi rhestr o 12 maes traws-sector ar gyfer buddsoddi fel blaenoriaeth a thri ‘llwybr’ lle mae iechyd a llesiant yn ysgogi datblygu cynaliadwy: ‘iechyd a diogelwch’, ‘cymdeithasol a thegwch’, ac ‘economaidd ac arloesi’.
Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r adroddiad yn dod â chyfuniadau fforddiadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd ar gyfer iechyd cynaliadwy a theg ar draws Ewrop.“Rydym yn falch o fod wedi arwain yr astudiaeth hon ar ran WHO Ewrop ac o fod wedi gweithio gydag arbenigwyr iechyd ac economaidd ar draws y cyfandir.
“Yng Nghymru, mae Deddf flaenllaw Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn dangos ein hymrwymiad clir i iechyd cynaliadwy i bawb. Mae’r adroddiad hwn yn offeryn pwysig i’n helpu i gyflawni’r uchelgais hwnnw a’n gobaith yw y bydd hefyd yn gweithredu fel canllaw defnyddiol i bob cenedl sydd yn ceisio cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r CU.
“Edrychwn ymlaen at gryfhau ein cydweithrediad gyda WHO a gwaith pellach ar y materion pwysig hyn.”p>
Main Report: click here
Report's Leaflet: click here
Supporting SROI paper: click here
Links
- http://www.euro.who.int/en/data-and-evidence/evidence-informed-policy-making/health-evidence-network-hen
- http://www.euro.who.int/en/about-us/organization/office-locations/who-european-office-for-investment-for-health-and-development,-venice,-italy
- http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/home (that’s mainly for our minisites, you probably don’t need it)
- http://www.euro.who.int/__data/assets/pdf_file/0020/345602/67cd04e_Rev.1_SDGs_170629.pdf?ua=1
- https://sustainabledevelopment.un.org/
- http://www.euro.who.int/en/health-topics/health-policy/health-2020-the-european-policy-for-health-and-well-being
HEN 51 evidence synthesis report : http://www.euro.who.int/en/countries/italy/publications/investment-for-health-and-well-being-a-review-of-the-social-return-on-investment-from-public-health-policies-to-support-implementing-the-sustainable-development-goals-by-building-on-health-2020-2017
HEN 51 highlights leaflet: http://www.euro.who.int/en/data-and-evidence/evidence-informed-policy-making/publications/2017/leaflet-highlights-from-the-health-evidence-network-synthesis-report-51
Social Return on Investment: Accounting for value in the context of implementing Health 2020 and the 2030 Agenda for Sustainable Development: http://www.euro.who.int/en/countries/italy/publications/social-return-on-investment-accounting-for-value-in-the-context-of-implementing-health-2020-and-the-2030-agenda-for-sustainable-development-2017