Cymru-yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant

28-03-18

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’.

Mae'r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel un o'r awdurdodau sy'n arwain y byd ar gynorthwyo buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl, ysgogi datblygu cynaliadwy a hyrwyddo ffyniant i bawb.

Dyma'r Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd gyntaf yn y maes hwn o arbenigedd yn y byd.

Bydd y Ganolfan Gydweithredol newydd yn datblygu, yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth newydd am y ffordd orau o fuddsoddi mewn gwell iechyd, lleihau anghydraddoldebau a meithrin cymunedau cryfach yng Nghymru, Ewrop a ledled y byd.

Fel rhan o'r datblygiad cydweithredol hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd wedi cytuno ar raglen pedair blynedd o waith.

Bydd hyn yn llywio ac yn hyrwyddo polisïau mwy cynaliadwy, yn croesawu egwyddorion hawliau dynol, tegwch ac ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth ac yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Meddai Vaughan Gething, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae hon yn garreg filltir ar gyfer Cymru gyfan. Er nad ydym yn wlad fawr rydym yn edrych tuag allan, yn dangos cyfrifoldeb byd-eang ac yn gwbl ymrwymedig i Gymru iach a chynaliadwy drwy ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) sy'n unigryw yn rhyngwladol.

"Fel un o sylfaenwyr Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd, mae'n bleser gennym allu rhannu ein profiad a'n harbenigedd â gwledydd eraill a gweithio tuag at fyd mwy cyfartal, iach a chynaliadwy.

"Gobeithio y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'i Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd gyntaf, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu ein strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb.

"Gyda'n gilydd gallwn ddangos sut y gall buddsoddi mewn iechyd cyhoeddus a pholisïau ataliol alluogi economi ffyniannus, deg a mwy cynaliadwy, yn ogystal â system iechyd ddarbodus, sy'n canolbwyntio ar bobl, o ansawdd uchel a chydnerth yng Nghymru."

Bydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â rhwydwaith o dros 700 o ganolfannau cydweithredol sy'n cwmpasu gwahanol bynciau iechyd ac wedi'u lleoli mewn 80 wledydd ledled y byd.

Bydd yn cynorthwyo Cymru i weithredu Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy a’r hyn sy'n cyfateb iddi yn genedlaethol ac sy'n arwain y byd, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Disgwylir y bydd y ganolfan gydweithredol newydd yn cael ei lansio'n ffurfiol ym mis Mai.

Meddai Dr Christoph Hamelmann, Pennaeth Swyddfa Ewrop Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu Sefydliad Iechyd y Byd a Swyddog Cyfrifol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd newydd:

“Mae'n bleser gennym groesawu cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Canolfan Gydweithredol gyntaf Sefydliad Iechyd y Byd.

“Mae'r arbenigedd a'r gwaith o safon uchel gan ein cydweithwyr yng Nghymru wedi bod yn ased gwerthfawr i Sefydliad Iechyd y Byd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ein gwaith ar y cyd diweddar i goladu gwybodaeth ynghylch ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ yn enghraifft dda o'n cydweithio buddiol.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n gwaith ar y cyd, gan gynorthwyo gwledydd ar draws Rhanbarth Ewrop a'r byd i ysgogi buddsoddi mewn iechyd, llesiant a thegwch a chyflawni economïau, cymdeithasau ac iechyd y blaned yn gynaliadwy.”

Mae statws Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd o ganlyniad i bartneriaeth hirdymor rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, gan ennill rôl arweiniol yn yr agenda iechyd a datblygu cynaliadwy byd-eang.

Meddai'r Athro Mark A Bellis, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol newydd Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Bydd dod yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn ein galluogi i adeiladu ar y blynyddoedd o waith llwyddiannus a wnaed gennym eisoes gyda Sefydliad Iechyd y Byd.

“Mae llawer o wledydd yn y byd yn wynebu problemau tebyg o ran sicrhau y gall cenedlaethau olynol ddisgwyl bywydau iach, teg a ffyniannus.

“Bydd gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw'r byd yn Sefydliad Iechyd y Byd, a thrwy gydol eu rhwydweithiau rhyngwladol, yn ein helpu i ddeall pa bolisïau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus sy'n gweithio orau i bobl Cymru ac i'r rhai mewn gwledydd eraill ledled y byd.

“Mae Cymru eisoes yn arweinydd byd-eang ym maes polisi iechyd cyhoeddus. Rydym yn edrych ymlaen at rannu'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu a dysgu oddi wrth eraill am sut i wneud Cymru yn lle hyd yn oed yn well i fyw, gweithio a magu teulu.”

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rwyf wrth fy modd i ni gael ein gwahodd i ymuno â'r rhwydwaith byd-eang hwn o arbenigedd. Mae ein cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu rhyngwladol wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i faes datblygu cynaliadwy a buddsoddi mewn iechyd cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n wych bod eu gwaith caled yn cael ei gydnabod.

“Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr ledled y byd, i sicrhau manteision mwyaf posibl dysgu ac arloesedd rhyngwladol i bobl Cymru, yn ogystal â gwella'n rôl yn yr agenda iechyd byd-eang a'n heffaith arni.”

Mae canolfannau cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn cael eu cydnabod fel canolfannau rhagoriaeth sy'n arwain y byd yn eu maes.

Ychwanegodd Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae aelodau Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â mi wrth longyfarch Mark Bellis a'i dîm ar y cyflawniad rhagorol hwn.

“Mae'n gydnabyddiaeth haeddiannol ar gyfer eu gwaith arloesol ar draws yr agenda polisi iechyd cyhoeddus, ac mae'n rhoi Cymru wrth wraidd y mudiad iechyd cyhoeddus byd-eang.

“Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru berthynas hirsefydlog â Sefydliad Iechyd y Byd ac mae'r dyfarniad hwn yn ein helpu i adeiladu ar hynny, er budd gwella iechyd a llesiant pobl Cymru.

“Mae ein haelodau Bwrdd yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr Sefydliad Iechyd y Byd a gwneud y mwyaf o'r dyfarniad hwn i Gymru.”