Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo'n cael ei danbrisio
29-01-19
Yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw'r ffocws presennol ar unigolion sy'n 'gamblwyr problemus' yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas ac mae hynny'n diystyru'r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau.
Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae'r gwaith yn edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd sydd i fynd i'r afael â niwed gamblo fel mater o bryder o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod plant a phobl ifanc, pobl â phryderon ariannol a dyledion, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, a phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy agored i niwed gamblo nag eraill..
Mae'r gwaith yn cael ei ryddhau wedi cynnydd dramatig dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y cyfleoedd sydd i gamblo. Ymhlith y rhesymau dros hynny mae llacio rheoleiddio a datblygiadau technolegol. Mae Deddf Gamblo 2005 wedi gwneud y farchnad gamblo yn fwy rhyddfrydol, ac mae gamblo bellach yn rhan amlwg o ddiwylliant ac economi Prydain.
Yng Nghymru, gwariodd tua 55% o oedolion (16 oed neu hŷn) arian ar ryw fath o gamblo yn 2016. Nodwyd bod 0.8% o oedolion yn gamblwyr problemus, a bod 3.3% mewn perygl. Amcangyfrifwyd bod y costau i iechyd, lles, cyflogaeth, tai a chyfiawnder troseddol a achosir gan gamblwyr problemus rhwng £40m a £70m yng Nghymru. Mae'r ffigyrau hyn wedi ysgogi cryn drafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol am effeithiau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas yng Nghymru. Yn ei adroddiad blynyddol yn 2018, galwodd Prif Swyddog Meddygol Cymru am gryfhau'r ymateb polisi i'r her iechyd hon nad yw, hyd yma, wedi cael ei gwerthfawrogi'n llawn.