Siarad â mamau am eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

30-01-19

Canfyddiadau o astudiaeth newydd gan ymwelwyr iechyd yn Ynys Môn

ACES Health Visiting Report WelshMae menter leol arloesol newydd a gyflwynir yn Ynys Môn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi gweld ymwelwyr iechyd yn mynd ati'n rheolaidd i holi mamau newydd am y Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod neu ACE a ddioddefwyd ganddynt pan oeddent yn blant.

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn ddigwyddiadau trawmatig sy'n effeithio ar blant pan maent yn tyfu i fyny, fel dioddef cam-drin plant neu fyw mewn aelwyd yr effeithir arni gan drais domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl. Mae'r ymholiad ACE rheolaidd yn ceisio paratoi unigolion yn well ar gyfer rhianta drwy roi cyfle i drafod beth effeithiodd ar brofiadau'r fam ei hun o blentyndod a myfyrio ar hyn.

Dyma'r tro cyntaf mae dull o’r fath wedi'i dreialu gydag ymwelwyr iechyd yn y DU. Mae'n gam cyntaf tuag at ddeall sut i gynorthwyo mamau sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gyflawni iechyd cadarnhaol, llesiant ar gyfer eu hunain a gwell canlyniadau iddyn nhw fel rhieni. Er mai astudiaeth gychwynnol yn unig yw hon, mae'r canfyddiadau o werthusiad annibynnol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn addawol iawn.

Roedd mwy nag 8 o bob 10 o famau o'r farn ei bod yn bwysig i ymwelwyr iechyd gael y ddealltwriaeth hon o'u ACE ac roedd dros 90% o famau o'r farn ei bod yn dderbyniol darparu gwybodaeth o'r fath i ymwelydd iechyd. Ar gyfer dros 40% o famau a chanddynt ACE, ymholiad yn ystod ymweliadau iechyd oedd y tro cyntaf yn eu bywydau iddynt allu trafod y profiadau hyn gyda gweithiwr proffesiynol.

Find out more

PHW Logo.jpg