Ymchwil er budd Cleifion a'r Cyhoedd (RfPPB) Cymru a'r Cynllun Cyllid Ymchwil: Grant Cymdeithasol Cymru bellach yn fyw

Closing date: 29 October 2019

 

Mae'n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi y bydd galwadau newydd am geisiadau i'r cynllun Ymchwil er budd Cleifion a'r Cyhoedd (RfPPB) Cymru a'r Cynllun Cyllid Ymchwil: Grant Cymdeithasol Cymru bellach yn fyw.

Bydd y galwadau ar agor tan 13:00 ar 29 Hydref 2019.

Cofiwch y bydd gan bob cynllun broses ymgeisio dau gam. Dim ond crynodeb o'r prosiect ac achos ar gyfer blaenoriaethu fydd ei angen ar geisiadau yng Ngham 1, a byddant yn cael eu hasesu ar sail yr angen o ran ymchwil a phwysigrwydd y cwestiwn ymchwil. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn yng Ngham 2, lle asesir ansawdd yr wyddoniaeth a'r gwerth am arian.

Cylch gwaith a meysydd blaenoriaeth

Ymchwil er budd Cleifion a'r Cyhoedd

Mae'r cynllun hwn yn agored i unigolion sy'n gweithio yn un o sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Dylai'r Ymgeisydd Arweiniol fod yn gwneud gwaith ymchwil adeg gwneud y cais a rhaid iddo gael rôl sefydlog yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae'r cynllun yn meithrin capasiti a gallu yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru) drwy ariannu ymchwil sy'n gysylltiedig ag arferion dyddiol y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys arferion iechyd a gofal cymdeithasol integredig, a budd cysylltiedig i gleifion ac i'r cyhoedd. Byddai Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu'n arbennig geisiadau sy'n mynd i'r afael â'r heriau a amlinellir yn 'Cymru Iachach'[https://llyw.cymru/cymru-iachach-cynllun-hirdymor-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol], cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Grant Gofal Cymdeithasol

Bydd pob prosiect gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â chylch gwaith cyffredinol y cynllun yn gymwys i gael ei ystyried. Hefyd, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu'n arbennig geisiadau sy'n mynd i'r afael â'r meysydd blaenoriaeth a ganlyn: Plant sy'n derbyn gofal, a lleihau'r angen i blant fod mewn gofal; Pobl â dementia; Gofal a chymorth yn y cartref.

 

health-care.jpg