Digwyddiad Arddangos Iechyd Cyhoeddus Cymru
3-04-19
Research and Development Event (Welsh Subs)
from Public Health Wales on Vimeo.
Gweithiodd Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda thîm Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflwyno eu cynhadledd flynyddol fwyaf llwyddiannus hyd yn hyn, ar Ddydd Mercher 13 Mawrth 2019 yn Adeilad Hadyn Ellis, Caerdydd. Teitl y gynhadledd oedd, ‘Dod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd: Chwyldro mewn trawsnewid’ a chafwyd addewid o raglen fentrus ac amrywiol, ac ni wnaeth y llefarwyr siomi. Gyda thros 140 wedi cofrestru I fynychu’r diwrnod, a 60 o wylwyr eraill yn dilyn ar ffrwd fyw Twitter, roedd digon I bawb..
Cafodd yr anerchiad agoriadol ei gyflwyno gan Ifan Evans, Cyfarwyddwr Technoleg a Thrawsnewid (Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru). Siaradodd Ifan am y cynllun blaengar, mentrus ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ‘Cymru Iachach’. Amlygodd anerchiad oedd yn procio’r meddwl yr hyn y dylai pob gwaith ymchwil geisio ei gyflawni. Hynny yw, daw gwerth ymchwil o’r adeg y byddwch yn ei defnyddio a’i throsi’n gynnyrch a gwasanaethau sydd o fudd i gleifion. Siaradodd hefyd am yr angen i newid y ffocws o’r sector aciwt – gofal sylfaenol ac eilaidd, i ataliaeth a llesiant. Mae llawer i’w wneud o hyd i gyflawni’r uchelgais hon ac mae’n bwysig dangos arbedion cost a’r buddion ehangach i unigolion a chymdeithas yn sgil mabwysiadu ymagwedd ataliol yn hytrach na thriniaeth.
Siaradodd Robin Miller, Pennaeth Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Birmingham am‘Ychwanegu gwerth trwy werthuso: dysgu o’r rhaglen ysgogi arloesi’. Mae ymchwil Robin yn ymwneud â modelau newydd o gydweithredu rhwng sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a sectorau eraill, a sut gallwn gyflwyno arloesedd aml-asiantaeth yn llwyddiannus mewn cyd-destunau lleol. Esboniodd ei brofiad o werthuso ysgogi arloesi yng Nghymru – yn arbennig comisiynu hyblyg Cymru, barodrwydd i rannu’r da a’r drwg, a chymorth rheoli prosiect rhagorol.
Rhoddodd Daisy Fancourt (Coleg Prifysgol Llundain) gyflwyniad medrus ar effaith hirdymor ymgysylltu celfyddydol a diwylliannol ar iechyd y cyhoedd. Esboniodd yn fanwl pa mor fuddiol y gallai’r celfyddydau fod i’n hiechyd. Er enghraifft, roedd gan blant ysgol gynradd oedd wedi ymgysylltu â’r celfyddydau lefelau uchel o hunan-barch, yn arbennig os yw eu rhieni’n ymgysylltu â nhw. Ac mae’r ffocws ar ymgysylltu, nid oes rhaid i chi fod yn dda yn gwneud hynny. Esboniodd hefyd sut gall y celfyddydau a diwylliant helpu i wella iechyd meddwl, corfforol a gwybyddol ym mhob grŵp oedran. Cafodd gwerth ymgysylltu celfyddydol a diwylliannol ei ddangos mewn ffordd hyfryd pan gyfareddodd côr Tenovus y gynulleidfa a gwylwyr gyda chaneuon cynhyrfus i gau’r sesiwn gyntaf.
Aeth y dydd yn ei flaen gan barhau i roi cyfle i ymchwilwyr PHW a’n cydweithredwyr a’n cydweithwyr gyflwyno canfyddiadau eu hymchwil ddiweddaraf a rhwydweithio gyda’i gilydd. Am y tro cyntaf yn y digwyddiad hwn,cafwyd sesiwn grŵp gyda’r dewis o fynychu cyfres o sgyrsiau yn ymwneud naill ai ag ‘Iechyd Digidol a Data Mawr’neu ‘Hybu Ymddygiad Iach.
For presentations and photos click here
@phrwales #RIW2019