Astudiaeth PROTECT; treial dichonoldeb o ymyrraeth seicogymdeithasol i leihau’r perygl o feirysau a gludir yn y gwaed (BBV)
Dr Noel Craine, Gwyddonydd Ymchwil, Iechyd Cyhoeddus Cymru- Beth oedd/yw'r her neu’r mater iechyd y cyhoedd? Pwy sydd wedi cydweithredu ar y gwaith hwn?
Rhoddodd Noel drosolwg rhagorol o astudiaeth PROTECT, cydweithrediaeth tair sir yn cynnwys academyddion, arbenigwyr iechyd y cyhoedd a’r trydydd sector (fel rhan o’r grŵp datblygu ymyrraeth) o Gymru, Lloegr a’r Alban. Nod y treial ymyrraeth hwn oedd lleihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â dal feirysau a gludir yn y gwaed (BBV), yn bennaf Hepatitis C a HIV ymysg defnyddwyr cyffuriau a chwistrellir. Er gwaethaf ymdrechion i leihau’r defnydd o rannu nodwyddau ymysg defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu, mae’n ystyfnig o uchel ac mae hwn yn fater iechyd y cyhoedd o ystyried cyfraddau uchel Hepatitis C ymysg pobl sy’n chwistrellu cyffuriau.
- Beth gafodd/sydd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn?
Nod yr astudiaeth oedd archwilio dichonoldeb a derbynioldeb ymyrraeth seicogymdeithasol er mwyn deall rhai o’r dylanwadau ar y perygl o BBV a lleihau’r perygl o drosglwyddo ymysg defnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau trwy hap-dreial wedi ei reoli. Dangosodd cyfweliadau cychwynnol gyda defnyddwyr cyffuriau bod y ffactorau oedd yn dylanwadu ar ymddygiad risg yn ymwneud â chwistrellu yn amrywiol ac yn gymhleth, ac efallai’n ddadlennol, dylai’r ymyriadau dargedu gwella technegau chwistrellu a hybu’r defnydd o offer di-haint.
- Beth yw’r prif ganlyniadau/canfyddiadau neu awgrymiadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol?
Roedd y treial yn cynnwys naill ai ymarfer arferol fel elfen reoli h.y. llyfryn gwybodaeth a thaflen neu’r ymyrraeth oedd, ar wahân i’r ymarfer arferol, yn cynnwys 3 x sesiwn 1 awr o ymyrraeth seicogymdeithasol. Yn galonogol, nid oedd yr ymyrraeth yn ymddangos fel pe bai’n annog arferion chwistrellu mwy peryglus nac yn cynyddu amlder chwistrellu. Roedd presenoldeb ar draws y safleoedd ymchwil yn amrywio rhwng 63% a neb yn mynychu, a’r rheiny a nodwyd bod ganddynt yr angen mwyaf am wasanaeth ymyrraeth o’r fath oedd lleiaf tebygol o’i ddefnyddio. Arweiniodd hyn at y casgliad na ellid cyfiawnhau treial llawn. Mae mwy o wybodaeth am ymyrraeth PROTECT ar gael yn www.kcl.ac.uk/ioppn/depts/addictions/research/drugs/PROTECT-download-page-form.aspx.
Cliciwch yma i weld cyflwyniad