Gwella Iechyd Mamau: Lleihau cyfraddau Pwysau Isel ar Enedigaeth yng Nghwm Taf
Angela Jones, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru-
Beth oedd/yw’r her neu’r mater iechyd y cyhoedd?
Lleihau cyfraddau smygu a Mynegai Mas y Corff (BMI) dros 30 ymysg menywod beichiog, er mwyn lleihau mynychder babanod sy’n cael eu geni â phwysau isel ar enedigaeth yng Nghwm Taf.
-
Beth gafodd ei wneud/sydd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn?/ Pwy sydd wedi cydweithredu ar y gwaith hwn?/ Beth yw’r prif ganlyniadau/canfyddiadau neu awgrymiadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol?
Cynhaliwyd ystod o brosiectau i fynd i’r afael â’r her i iechyd y cyhoedd yng Nghwm Taf.
Prosiect BASICs: mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, cynhaliodd tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Cwm Taf arolwg oedd yn gofyn i fenywod beichiog am y rhwystrau yr oeddent yn eu hamgyffred i roi’r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd. Mae’r canfyddiadau’n nodi bod diffyg atgyfeirio gan fydwragedd i wasanaethau rhoi’r gorau i smygu, nid oedd menywod yn ymwybodol o argaeledd gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu ac roedd menywod yn lleihau eu lefelau smygu yn hytrach na rhoi’r gorau iddi yn gyfan gwbl. Roedd y wybodaeth hon yn cael ei bwydo yn ôl i fydwragedd.
O ganlyniad i ganfyddiadau’r prosiect hwn, datblygodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad â’r bwrdd iechyd lleol brosiect MAMSS. Wedi ei ariannu gan Swyddfa YaD Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel rhan o’u cronfeydd datblygu Llwybr i Bortffolio, sefydlodd y prosiect Monitro Carbon Monocsid a darpariaeth gweithwyr cymorth mamolaeth i gynyddu cyfraddau rhoi’r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd. Y mesur canlyniad sylfaenol oedd ymgysylltu â’r gwasanaeth. Y mesur canlyniad eilaidd oedd nifer yr atgyfeiriadau i’r gwasanaeth, nifer y sesiynau a fynychwyd a chyfraddau rhoi’r gorau iddi ymysg menywod beichiog. O’i gymharu â lleoliad rheoli yn y bwrdd iechyd, ar gyfer y rheiny a gafodd gynnig yr ymyrraeth roedd y canfyddiadau yn gadarnhaol ar gyfer pob canlyniad.
Roedd y Rhaglen Pwysau Isel ar Enedigaeth yn cynnwys MAMSS ac yn ogystal, gwasanaeth gordewdra ymysg mamau o’r enw BumpStart. Fel rhan o’u gofal cyn-enedigol safonol, cafodd menywod beichiog â BMI o 35 neu fwy gynnig sesiynau ychwanegol gyda Bydwraig Ffordd o Fyw Iach a deietegydd. Mae dadansoddiad meintiol ac ansoddol o’r gwasanaeth yn/wedi cael ei gynnal.
Mae gwasanaeth MAMSS yn dal i barhau trwy gyllid gan Dechrau’n Deg ac mae cynlluniau i hybu cynyddu’r gwasanaeth ar draws Cymru. Yn ogystal, mae gwasanaethau gordewdra ymysg mamau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd trwy’r gwasanaeth BestStart. Ariennir y gwasanaeth hwn gan Ymddiriedolaeth Burdett fel prosiect ymchwil yn canolbwyntio ar fenywod â BMI o 30 neu fwy. Unwaith y bydd BumpStart a BestStart wedi cael eu gwerthuso’n llawn ac mae digon o dystiolaeth i gefnogi datblygiad pellach y gwasanaethau, bydd achosion busnes yn cael eu creu i gyflwyno’r gwasanaethau’n raddol ar draws y lleoliadau eraill.
Cliciwch yma i weld cyflwyniad