Diben ymchwil yw Newid y Byd, nid ei Ddeall yn unig
Yr Athro Marcus Longley, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De CymruRhoddodd yr Athro Longley drosolwg rhagorol o ymchwil a ddiffinnir fel ‘creu a lledaenu gwybodaeth newydd, sy’n berthnasol i faterion cyfredol ac y gellir ei defnyddio.
Yng Nghymru, nododd yr Athro Longley bod dau fater uwchlaw pob un arall sydd yn bresennol;
(1) Cofnod ‘gwarthus’ o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a
(2) Defnyddi anghynaliadwy o wasanaethau a’r angen i feddwl am bethau’n wahanol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn mae angen cydweithredu gwell rhwng rhanddeiliaid allweddol yn cynnwys gwleidyddion, gwneuthurwyr polisïau, ymarferwyr a chleifion. Dylai’r cydweithrediadau hyn feddwl am y tri pheth canlynol;
(1) Canolbwyntio ar ganlyniadau (amlygu peryglon a buddion perthnasol)
(2) Ailfodelu gofal (profi’r dewis amgen)
(3) Gwneud i newid ddigwydd (galwad i’n hysgogi ni!)
Gellir diffinio cyfeiriadau yn y dyfodol fel rhai ‘syml’ neu ‘nid mor syml’ ond mae sawl peth y gallwn wneud i gyd. Mae’r rhai fel a ganlyn;
(1) Disgwyl i bolisi gael ei brofi gan ymchwil
(2) Mynd ag ymchwilwyr yn agosach at y rhanddeiliaid
(3) Dylunio wrth werthuso o’r cychwyn
(4) Profi defnyddioldeb yr ymchwil i randdeiliaid
(5) Profi defnyddioldeb yr ymchwil i randdeiliaid.
Cliciwch yma i weld cyflwyniad