Ymchwil Iechyd yng Nghymru – Alinio Blaenoriaethau Polisi ac Ymchwil

Ymchwil Iechyd yng Nghymru – Alinio Blaenoriaethau Polisi ac Ymchwil

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, Llywodraeth Cymru

Amlinellodd y cyflwyniad hwn flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gyfeirio at raglen Dwyn Cymru Ymlaen a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Soniwyd am bedair strategaeth rhyng-gysylltiedig, trosfwaol y mae Llywodraeth Cymru’n eu datblygu ar hyn o bryd:

1)      Iach ac egnïol

2)      Ffyniannus a diogel

3)      Uchelgeisiol a dysgu

4)      Unedig a chysylltiedig

Caiff y rhain eu cyhoeddi yn nes ymlaen eleni, gyda’r diben o ysgogi datblygiad tuag at iechyd a llesiant gwell yng Nghymru.

Mae gwaith pwysig ym maes iechyd y boblogaeth wedi cael ei wneud yng Nghymru, fodd bynnag dylid nodi bod busnes heb ei orffen yn ogystal â phroblemau heb eu datrys. Codwyd heriau newydd a rhai sydd yn dod i’r amlwg fel meysydd blaenoriaeth posibl i feddwl amdanynt, yn arbennig llwybrau cyffredin i gaethiwed fel gamblo, yn ogystal â chlefydau trosglwyddadwy sydd yn dal ar agenda iechyd y boblogaeth fel maes blaenoriaeth.

Pwysleisiwyd y dylem ddefnyddio adnoddau gwerthfawr sy’n bodoli yn y seilwaith ymchwil yng Nghymru (yn arbennig Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Canolfan Genedlaethol Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR), Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) a’r Canolfannau Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer)) a defnyddio’r asedau hyn yn effeithiol wrth i ni barhau i wneud ymchwil ym meysydd blaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o’r fframwaith ymchwil ehangach sy’n bresennol yng ngweddill y DU a’r mentrau eraill sy’n bodoli.

Yn gryno, er bod llawer o fentrau allweddol ar waith, mae angen mwy o amlygrwydd o flaenoriaethau iechyd y boblogaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a chydlynu a chydweithredu gwell yn y gymuned ymchwil.

Cliciwch yma i weld cyflwyniad

003 CMO-PHW Research Showcase Event 2Mar-2017.pptx