Y cydweithredu rhwng Heddlu De Cymru, yr NSPCC a PHW i ddeall ymateb yr Heddlu i fod yn agored i niwed
Y Prif Arolygydd John Wainwright (Heddlu De Cymru) a Shaun Kelly (NSPCC)Mae Ymyrraeth Gynnar a Gweithredu Cadarnhaol Prydlon: Torri’r Cylch Troseddu o un Genhedlaeth i’r Llall yn rhaglen 2 flynedd a ddechreuodd yn Ebrill 2016 sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Arloesedd yr Heddlu y Swyddfa Gartref. Y rhaglen yw’r unig un o’i bath yn y DU ac mae ar hyn o bryd yn cael ei rhoi ar brawf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr o Dde Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys cydweithredu rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, NSPCC Cymru, Barnardos a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gan ddefnyddio ymchwil o Astudiaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, nod y rhaglen yw datblygu ymagwedd hirdymor i leihau ACE a chefnogi’r rheiny sydd wedi eu heffeithio trwy ddeall sut mae’r heddlu yn ymateb i fod yn agored i niwed.
Mae amddiffyn pobl agored i niwed bellach yn brif flaenoriaeth i Heddlu De Cymru, newid sylweddol o ran meddylfryd sydd wedi ei adlewyrchu yng Nghynllun Cyflawni Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae’r rhaglen yn dangos sefyllfa unigryw gwaith datblygu ar y cyd ag ymchwil.
Mae gan weithio ar raglen amlsector ei gymhlethdodau ei hun. O safbwynt ymchwil roedd yr heriau a wynebwyd yn gwneud ymchwil gyda sefydliad gweithredol yn cynnwys rhannu dealltwriaeth o ran disgwyliadau a chyfyngiadau; alinio polisïau a gweithdrefnau oedd â goblygiadau o ran recriwtio, dealltwriaeth ar y cyd o broses ymchwil foesegol; datblygu protocolau gweithredol i ganiatáu ar gyfer arsylwadau ymchwil oedd yn arwain at yr angen am newidiadau deinamig i brotocolau’r heddlu; deall acronymau ‘mewnol’; rhannu calendrau rhwng asiantaethau a rhannu gwybodaeth. Roedd yr heriau amlycaf yr oedd yr heddlu yn eu hwynebu yn cynnwys newid y gweithdrefnau gweithredol presennol heb eglurder o’r cychwyn am ‘y newid’ ar lawr gwlad; rôl newidiol swyddogion yr heddlu; eglurder iaith (yr un gair ond ystyron gwahanol ar draws sefydliadau gwahanol er enghraifft, pryd mae argymhelliad yn ‘orchymyn’ neu ‘i’w ystyried’?). Mae cydweithrediad y rhaglen wedi gofyn am lawer iawn o gyfathrebu cyson a pharhaus ynghyd ag unigolyn neilltuol gan yr heddlu sydd wedi helpu i gyfeirio’r ymchwilwyr trwy’r heddlu fel sefydliad.
Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen ar ddiwedd cyfnod cyntaf yr ymchwil gydag argymhellion ar fin cael eu rhoi. Y camau nesaf yw gwneud hyfforddiant gyda Heddlu De Cymru yn ymwneud â bod yn agored i niwed o argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad ymchwiliol.
Cliciwch yma i weld cyflwyniad
002 Collaboration between SWP and PHW presentation.pptx