Mae enwebiadau ar agor - Gwobrau Effaith Cefnogi A Chyflenwi 2020
6-11-19
Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Effaith Cefnogi a Chyflenwi 2020. Beth am roi lle amlwg i’r staff diwyd, uchel eu cyflawniad o’r gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi sydd wedi gwneud gwahaniaeth i waith ymchwil yng Nghymru? Ond ni allwn ni anrhydeddu’r sêr ymchwil hyn heb eich help chi.
Byddwn ni’n cyflwyno pedair gwobr yn y digwyddiad a chaiff tair o’r rhain eu seilio ar nodau strategol ein gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi, gan gydnabod cyflawniadau gwerthfawr unigolion a thimau wrth iddyn nhw gyflawni ymchwil:
- Y cyhoedd
Byddwn ni’n cynyddu cyfleoedd i gleifion a’r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil foesegol a diogel, a chael budd o hyn, waeth lle y maen nhw yn ddaearyddol.
- Y gymuned ymchwil
Byddwn ni’n galluogi’r diwydiant a phrif ymchwilwyr i sefydlu astudiaethau ar fwy nag un safle ledled Cymru mewn ffordd syml ac effeithlon, gydag un mynediad.
- Staff
Byddwn ni’n denu staff sy’n meddu ar y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad priodol ac yn eu rhoi ar waith yn gyson yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwyddo draw, gan sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau y mae pawb yn eu rhannu.
Bydd y wobr arall, sef gwobr Cymru’n Un, yn cydnabod y rheini ar draws y gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi sy’n gweithio’n galed i wireddu Gwasanaeth Di-dor Cymru’n Un ar gyfer cefnogi a chyflenwi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel.
Cynhelir y seremoni wobrwyo yn y digwyddiad Cefnogi a Chyflenwi ar 19 Mawrth 2020 yng ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd.