Ymchwil newydd yn dangos bod gan blant ysgol gynradd ymwybyddiaeth dda o e-sigaréts
11-04-18
Yr adroddiad ‘e bo mwg oes tân? Canfyddiadau plant ysgol gynradd yng Nghymru am sigaréts electronig' comisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn helpu i ddeall ymwybyddiaeth a safbwyntiau plant am e-sigaréts, o’u cymharu â smygu tybaco.
Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, yn amlygu bod bron 94% o blant yn cydnabod effeithiau niweidiol smygu ond nad oedd gan blant lawer o ymwybyddiaeth o unrhyw niwed i iechyd sy’n cael ei achosi gan sigaréts electronig. Roedd ansicrwydd mawr a llawer o gamganfyddiadau. Roedd rhai plant iau er enghraifft yn camgymryd y blas ffrwythau fel arwydd bod yr e-hylif yn cynnwys ffrwythau ac felly’n iach.
Dywedodd y cydawdur Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r gwaith ymchwil hwn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i amgyffrediad plant o sigaréts electronig, dylanwadau teuluol ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Mae atgyfnerthu’r neges bod sigaréts yn cynorthwyo pobl i roi’r gorau i smygu yn bwysig, ynghyd â mynd i’r afael â bylchau yng ngwybodaeth plant am niwed posibl."
Adroddiad Cymru: cliciwch yma
Cymraeg infograffig: cliciwch yma