Ceiswyr noddfa a gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn galw am wasanaethau iechyd a llesiant i bawb – adroddiad newydd
2-04-19
Mae pobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau iechyd a llesiant yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Nododd pobl sy'n ceisio noddfa eu bod yn teimlo nad oedd eu hanghenion yn cael eu cydnabod, a'u bod wedi profi problemau yn llywio drwy wasanaethau gan gynnwys anawsterau iaith a diffyg cyfieithu ar y pryd priodol.
Dywedodd rhai ymatebwyr fod y straen o fod yn geisydd lloches neu ffoadur wedi cyfrannu at eu hiechyd corfforol a meddyliol gwael.
Mewn arolwg a gynhaliwyd fel rhan o'r astudiaeth, dywedodd bron chwarter (23 y cant) o'r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod sut i gysylltu â'r gwasanaeth ambiwlans 999, neu nad oeddent wedi clywed amdano.
Cafodd yr astudiaeth – Profiadau Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru – ei chynnal er mwyn ymchwilio i brofiad iechyd, llesiant a gofal iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, gan gynnwys barn a phrofiadau derbynwyr a darparwyr gofal iechyd.
Roedd pobl sy'n ceisio noddfa yn rhan o'r tîm ymchwil, ac roedd y Groes Goch Brydeinig, Alltudion ar Waith, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig wedi cefnogi hefyd.
Dywedodd gweithwyr proffesiynol iechyd o ofal eilaidd a sylfaenol eu bod yn aml yn ei chael yn anodd diwallu anghenion pobl sy'n chwilio am noddfa yn effeithiol. Roedd y materion yn cynnwys diffyg amser ymgynghori, diffyg gwybodaeth benodol yn ymwneud â phobl sy'n ceisio noddfa, a diffyg gwybodaeth am gleifion mewn ieithoedd priodol.
Meddai Gill Richardson, Cynorthwyydd Cynorthwyol Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol:
“Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas Cymru. Fodd bynnag, gall y profiad o geisio lloches fod yn llawn trawma ac ychwanegu at brofedigaeth, pontio, colled a straen sy'n bodoli eisoes. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion pawb yn ein cymunedau, ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
“Mae'r adroddiad hwn yn canfod bod angen i Gymru adeiladu ar gamau presennol er mwyn iddi gyflawni ei uchelgais o fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, yn dilyn cyhoeddiad diweddar cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru.”