Adroddiad newydd yn amlygu cyflawniadau ymchwil
24-01-18
Mae Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn dangos ei brif gyflawniadau ymchwil a datblygu yn 2016/17.
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r cynnydd y mae’r sefydliad wedi ei wneud yn gweithredu ei Strategaeth Ymchwil ers ei lansio yn 2015.
Ceir manylion sawl prosiect ymchwil gwahanol yn yr adroddiad yn cynnwys y rheiny’n ymwneud â:
- Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru
- Deall ymateb yr heddlu i fregusrwydd a risg
- Ymagwedd iechyd y cyhoedd tuag at ymateb i ddigwyddiadau o ddiweithdra torfol
Dywedodd Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ein hymchwil yn hanfodol, yn ein helpu i ddeall pa ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd a pham, sut y gall hyn arwain at anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, a sicrhau bod y gwaith yr ydym yn ei wneud i wella iechyd yng Nghymru yn seiliedig ar y dystiolaeth orau.”
Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn: