Adroddiad Cenedlaethol newydd yn trafod sut y gall Brexit effeithio ar iechyd a llesiant pobl ledled Cymru
21-01-19
Wedi'i gyhoeddi heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd Brexit yn trafod effeithiau posibl Brexit ar iechyd tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy'n byw yng Nghymru.
Mae'n tynnu sylw at sut y mae'n rhaid i iechyd corfforol a meddyliol y tlotaf, y rhai â chymwysterau addysgol is, y rhai sy'n cael eu cyflogi ym maes amaeth a gweithgynhyrchu sy'n agored i Brexit a'r rhai y mae angen iechyd a gofal cymdeithasol arnynt fod yn ystyriaethau allweddol wrth i'r paratoadau ar gyfer Brexit ddatblygu a pharhau i gael eu datrys hefyd ar ôl unrhyw gytundebau terfynol.
Mae’r adroddiad, Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd, yn trafod yn fanwl sut y gall pob agwedd ar broses Brexit effeithio ar iechyd. Mae'n ystyried y risgiau uniongyrchol i iechyd drwy effeithiau posibl ar fynediad i feddyginiaethau a staff iechyd a gofal cymdeithasol o wledydd Ewropeaidd ond hefyd sut y gall newidiadau mewn cyfleoedd cyflogaeth, straen ansicrwydd ar gyfer ffermio a chymunedau eraill, newidiadau posibl o ran hawliau cyflogaeth a rheoliadau safonau bwyd a marchnata nwyddau fel tybaco ac alcohol effeithio ar iechyd pobl ledled Cymru.
Nid yw'r adroddiad yn mynd i'r afael â chanlyniadau unrhyw ganlyniad Brexit penodol ond mae'n ystyried y niwed a'r manteision posibl y gellid eu cael o unrhyw broses Brexit. Mae symud i ffwrdd o systemau Ewropeaidd presennol sy'n sail i amaethyddiaeth a buddsoddi mewn rhanbarthau difreintiedig o Gymru yn darparu cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchu bwyd gwell, mwy cynaliadwy a sicrhau bod plant ac oedolion sy'n byw mewn tlodi yn cael cymorth digonol i ddiogelu eu iechyd