Rydyn ni wedi lansio model newydd ar gyfer categoreiddio cyfleoedd cynnwys y cyhoedd
25-01-19
Fe fydd ein model newydd yn cyflwyno tri chategori o gyfleoedd cynnwys y cyhoedd. Mae pob categori yn adlewyrchu lefel y profiad, arbenigedd ac amser y mae’r cyfle’n galw amdano oddi wrth aelod o’r cyhoedd.
O 1 Ebrill 2019, ar ôl cyfnod peilot cychwynnol a ddaw i ben ym mis Mawrth 2019, fe fydd gofyn i ymchwilwyr osod eu cyfle cynnwys y cyhoedd yn naill ai’r categori coch, gwyrdd neu las. Mae canllawiau newydd wedi’u datblygu, ar sail y categorïau hyn, i helpu ymchwilwyr wrth iddyn nhw gwblhau cais ymchwilydd wedi’i ddiweddaru am ffurflen gais cynnwys y cyhoedd, sy’n cynnwys y model newydd.
Datblygwyd y model newydd yn sgil argymhellion a ddaeth o adolygiad y Gymuned Cynnwys Pobl, lle roedd 73% o’r rheini yr ymgynghorwyd â nhw’n teimlo y byddai cyflwyno lefelau cyfleoedd gwahanol yn cael effaith bositif.