Modiwlau e-ddysgu newydd i fyfyrwyr - ymchwilwyr

18-01-19

Cynllunio yw’r allwedd i ymchwil lwyddiannus, a dylai myfyrwyr drin ymchwil yn yr un ffordd ag unrhyw astudiaeth arall sy’n mynd rhagddi yn y GIG. Nod modiwlau e-ddysgu newydd byr gan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) yw helpu myfyrwyr i wneud hynny.

Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar elfen wahanol o’r broses ymchwil, gan gynnwys Cymeradwyaeth yr HRA ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a sefydlu safleoedd ymchwil yng Nghymru a Lloegr.

Yr astudiaethau hynny a wneir yn bennaf er mwyn ennill cymhwyster addysgol ydy’r astudiaethau myfyrwyr. Os mai gwneud ymchwil benodol yw prif bwrpas yr astudiaeth – lle bo cymhwyster addysgol yn eilaidd – nid yw’n dod o fewn y categori hwn.

Cael gwybod mwy