Cyfarwyddwr newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’i benodi
1-10-19
Rydyn ni’n llawn cyffro ynglŷn â chyhoeddi bod yr Athro Kieran Walshe wedi’i benodi fel cyfarwyddwr newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae gan yr Athro Walshe 25 mlynedd o brofiad ym meysydd ymchwil gwasanaethau iechyd, rheoli iechyd a pholisi iechyd.
Mae’n Athro Polisi a Rheoli Iechyd yn Ysgol Fusnes Alliance Manceinion ym Mhrifysgol Manceinion.
Meddai’r Athro Walshe:
“Mae’n fraint mawr i mi gymryd y rôl hon o fri, yn enwedig mewn amser mor dyngedfennol pan mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n datblygu ei weledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
“Dwi’n edrych ymlaen at ddod i adnabod cymuned ymchwil Cymru’n dda, a gweithio gydag ymchwilwyr a’r GIG, ac arweinwyr gofal, i droi ymchwil yn arfer. Gyda’n gilydd, gallwn ni gynhyrchu a defnyddio ymchwil ragorol i wella iechyd a gofal pobl yng Nghymru.”
Mae’r Athro Walshe hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol o Ymddiriedoliaeth Sefydledig GIG Christie, ac yn gadeirydd bwrdd Health Services Research UK. Cyn hyn, bu’n cydarwain y rhaglen ymchwil cyflenwi gwasanaethau iechyd yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd am naw mlynedd, hyd at 2015.
Bydd yn ymuno ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym mis Hydref ar secondiad rhan-amser am bedair blynedd o Brifysgol Manceinion.
Mae’r Athro Walshe yn cymryd yr awenau oddi wrth y cyd-gyfarwyddwyr interim Carys Thomas a Michael Bowdery, sydd wedi bod yn y swydd ers mis Awst 2018.
Darllen bywgraffiad yr Athro Walshe.