Dyfarniad Amser Ymchwil Clinigol 2019

Closing date: 17 October 2019

Mae cylch 2019 ar gyfer y Dyfarniad Amser Ymchwil Clinigol nawr ar agor.

Mae’r cynllun ar agor i staff o fewn GIG Cymru, neu staff wedi’u contractio i GIG Cymru (fel meddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a gwyddonwyr clinigol) mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd, gofal yn y gymuned neu iechyd cyhoeddus. Ei nod yw adeiladu gallu ymchwil a gallu yn y GIG drwy gynnig y cyfle i staff wneud cais am amser gwarchodedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil.

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg mewn datblygu eu sgiliau ymchwil ac anelu at ddod yn naill ai Prif Ymchwilydd, gan arwain ymchwil o ansawdd uchel ar lefel leol, neu Brif Ymchwilydd, gan ddatblygu ac arwain astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.

Amserlen y Cynllun

Mae'r cyfnod ymgeisio yn agor ddydd Llun 02 Medi 2019 ac yn cau am 17:00 ar ddydd Iau 17 Hydref, 2019.

Ceir manylion o’r broses ymgeisio a’r meini prawf cymhwyster yn y ddogfen Trosolwg Cynllun. Cynghorir ymgeiswyr i ddarllen y Trosolwg Cynllun a Nodiadau Cyfarwyddyd yn ofalus cyn llenwi'r ffurflen gais.

Enghreifftiau:

Ffurflen Gais

Cyfarwyddyd ar gyfer y Ffurflen Gais

 

health-care.jpg