Dioddefodd mwy nag wyth o bob deg dyn yn y carchar drallod yn ystod plentyndod
30-04-19
Trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â mwy o amser yn y carchar, troseddu treisgar a hanes o amser mewn sefydliadau troseddwyr ifanc.
Mae carcharorion gwrywaidd yn llawer mwy tebygol na dynion yn y boblogaeth ehangach o fod wedi dioddef trallod yn ystod plentyndod fel camarfer plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor.
Awgryma Arolwg ACEs Carcharorion y gallai camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) atal troseddu a lleihau costau ar gyfer y system cyfiawnder troseddol.
Yn yr arolwg newydd hwn o ddynion yng Ngharchar Ei Mawrhydi (EM) y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, de Cymru, dywedodd mwy nag 8 o bob 10 (84%) eu bod wedi profi o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) o gymharu â chyfartaledd o 46% yng Nghymru.
Nododd bron hanner y carcharorion (46%) iddynt brofi pedwar neu fwy o ACE. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros 1 o bob 10 (12%) yn y boblogaeth ehangach.
Canfu'r adroddiad hefyd fod carcharorion ag ACE lluosog (pedwar neu fwy) bedair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi treulio amser mewn sefydliad troseddwyr ifanc o gymharu â'r rhai heb unrhyw ACE.
Mae ACE yn brofiadau trawmatig sy'n digwydd cyn 18 oed. Maent yn amrywio o gam-drin plant geiriol, meddyliol, corfforol a rhywiol, i ddod i gysylltiad ag alcoholiaeth, y defnydd o gyffuriau a thrais domestig gartref.
Mae plant sy'n profi ACE yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd a gwrthgymdeithasol pan fyddant yn oedolion, maent yn wynebu risg uwch o lawer o iechyd gwael drwy gydol eu bywyd, ac efallai y bydd ganddynt fwy o anghenion am gymorth gan wasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.