Gwneud Gwahaniaeth: Lleihau risgiau ichyd sy'n gysylltiedig a llygredd aer o draffig ffyrdd yng Nghymru

22-06-18

Hoffem ddwyn eich sylw at ein hadroddiad newydd, sy’n archwilio yn amlinellu’r buddion i iechyd y boblogaeth a chost bosibl atebion cynaliadwy allweddol i wella ansawdd aer yng Nghymru a galluogi cymunedau iach sydd yn ffynnu.

Gallai buddsoddi mewn isadeiledd teithio egnïol a thrafnidiaeth allyriadau isel cynaliadwy leihau effaith llygredd aer ar iechyd yn sylweddol, bod o fudd i iechyd a llesiant a hybu’r economi, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a lansiwyd heddiw (21 Mehefin).

Llygredd aer awyr agored yw’r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd yng Nghymru, gyda thros ddwy ran o dair o lygredd aer trefol yn cael ei briodoli i allyriadau traffig y ffordd fel nitrogen deuocsid (NO2) a mater gronynnol (PM).

Mae cyswllt ag ansawdd aer gwael yn cynyddu’r perygl o lawer o gyflyrau yn cynnwys clefyd y galon, strôc, clefyd anadlol a chanser yr ysgyfaint, sydd yn costio amcangyfrifiad o £1 biliwn y flwyddyn i’r GIG a chymdeithas yng Nghymru.

Mae’r adroddiad newydd yn cyflwyno’r achos bod gan bawb rôl i’w chwarae yn lleihau llygredd aer ac y gellid creu’r effaith fwyaf trwy ymagwedd gydweithredol, amlsector ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn o ddiddordeb i chi. 

Linc adroddiad

Linc inffograffeg