'Bydd buddsoddi mewn ymchwil nawr yn cynnig cyfleoedd newydd i achub bywydau’
6-08-19
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) Cymru wedi cyhoeddi amrywiaeth o argymhellion er mwyn diogelu’r amser clinigol ar gyfer ymchwil at sylw Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, meddygon, cleifion a chyrff ymchwil.
Amser ar gyfer ymchwil: Darparu gofal arloesol i gleifion yng Nghymru gwnaed argymhellion i sicrhau bod ymchwil yn cael ei ystyried yn fusnes craidd y GIG a bydd buddsoddi mewn ymchwil yn darparu gwelliannau hirdymor i gleifion ac iechyd cyhoeddus.
Mae GIG Cymru’n wynebu sawl her. Yn amlwg, ni ellir anwybyddu prinder staff a phwysau ariannol, nac ychwaith yr angen i ddarparu gofal mwy integredig i gefnogi cleifi on, ond allwn ni ddim fforddio pentyrru problemau ar gyfer y dyfodol drwy adael i ymchwil fynd yn angof. Mewn gwirionedd, yng Nghymru, fe allai ein system iechyd integredig gynnig mwy o gyfl eoedd ar gyfer ymchwil poblogaeth drwy ganiatáu casglu data yn fwy helaeth ardraws lleoliadau. Bydd buddsoddi mewn ymchwil yn dod â buddiannau tymor hir i gleifi on ac iechyd cyhoeddus – sef yr hyn mae’r GIG yno i’w wneud.