Cymrodoriaethau Ymchwil Iechyd

Closing date: 29 November 2017

Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi galwad newydd am geisiadau i’r cynllun Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd.

Mae'r alwad yn awr yn agored I dderbyn ceisiadau tan 13:00 ddyd Mercher 29 Tachwedd 2017. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

Nod y Cymrodoriaethau Ymchwil Iechyd yw helpu unigolion i fod yn ymchwilwyr annibynnol a gwneud gwaith ymchwil o ansawdd da. Gwahoddir ceisiadau oddi wrth bob sector a disgyblaeth wyddonol.

Mae’r Gymrodoriaeth yn cynnig cyllid amser llawn am dair blynedd (neu bedair neu bum mlynedd yn rhan amser) i unigolion sydd â dim mwy na 60 mis FTE o brofiad o waith ymchwil ôl-ddoethurol pan maent yn ymgeisio. Disgwylir i’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad clir i yrfa ymchwil a dangos sut bydd y dyfarniad yn cefnogi’r potensial i fod yn ymchwilydd annibynnol.  

Fel rhan o Alwad 2017 y Gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd, byddai Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu’n benodol geisiadau sy’n rhoi sylw i gwestiynau: A yw cyd-gynhyrchu yn cynyddu cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus?. A chaniatáu y ceir ansawdd gwyddonol digonol, bwriad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw cyflwyno o leiaf un o ddyfarniadau’r gymrodoriaeth yn y maes hwn, cyn belled â bod y cais yn bodloni’r cylch gorchwyl a’r meini prawf gofynnol.

Cael gwybod mwy