Yn Cyhoeddi Penodi Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

2-04-19

Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi ei fod wedi penodi grŵp newydd o Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae unigolion wedi’u penodi yn sgil proses gystadleuol ac asesiad gan banel annibynnol o uwch arbenigwyr iechyd a gofal cymdeithasol y DU.

Y farn oedd bod y 15 o unigolion a gymeradwywyd i’w penodi ymhlith ymchwilwyr mwyaf blaenllaw Cymru o’r dystiolaeth y gwnaethon nhw ei darparu i fodloni’r meini prawf dethol a ganlyn:

• Ansawdd a swm eu hymchwil ryngwladol ragorol

• Effaith eu harweinyddiaeth mewn ymchwil

• Hanes gyrfa da o ran hyfforddi a datblygu ymchwilwyr

• Effaith eu hymchwil ar wella iechyd neu ofal cymdeithasol, a chynhyrchu cyfoeth

• Perthnasedd ymchwil i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd

• Ymrwymiad eglur i gynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â'r cyhoedd

• Tystiolaeth o gyfraniad personol at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Bydd Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ymgymryd â nifer o weithgareddau yn eu rôl. Byddwn ni’n disgwyl iddyn nhw fod yn llysgenhadon ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chwarae rôl arweiniol mewn cynyddu proffil ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r grŵp o Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer 2019-2022 fel a ganlyn:

Jon Bisson - Prifysgol Caerdydd Vanessa Burholt - Prifysgol Abertawe

Colin Dayan - Prifysgol Caerdydd

Adrian Edwards - Prifysgol Caerdydd

William Gray - Prifysgol Caerdydd

Kerenza Hood - Prifysgol Caerdydd

Dyfrig Hughes - Prifysgol Bangor

Ian Jones - Prifysgol Caerdydd

Ronan Lyons - Prifysgol Abertawe

Paul Morgan - Prifysgol Caerdydd

Shantini Paranjothy - Prifysgol Caerdydd

Andrew Sewell - Prifysgol Caerdydd

Helen Snooks - Prifysgol Abertawe

Rhiannon Tudor Edwards - Prifysgol Bangor

John Williams - Prifysgol Abertawe