Cronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg
Closing date: 30 August 2017
Mae'r Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg yn ariannu dau wahanol fath o brosiect:
-
Prosiectau gwerthuso cyflym - er mwyn profi effaith cynnyrch a gwasanaethau newydd ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y byd go iawn. Rhaid i'r prosiectau hyn gael eu cwblhau o fewn 12 mis, ac i'r gofynion o ran cyllid fod rhwng £50k a £200k.
- Prosiectau cyflwyno ar raddfa fwy - cyflymu'r broses o fabwysiadu cynnyrch a gwasanaethau sy'n dangos gwelliannau sylweddol o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, ar lefel genedlaethol neu ranbarthol. Gall y prosiectau hyn redeg am hyd at dair blynedd (er mai am ddwy flynedd yn unig y bydd cyllid y Gronfa ar gael), a bydd angen gofyn am o leiaf £200k o gyllid.