Gosod Blaenoriaethau Ymchwil Blynyddoedd Cynnar
6-08-19
Rydym yn ymgymryd ag ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil blynyddoedd cynnar. Diben yr arolwg hwn yw deall y bylchau mewn ymchwil a dealltwriaeth ar draws pob sector o ffactorau a all effeithio ar iechyd a llesiant plant yn eu blynyddoedd cynnar; gan gynnwys pob oedran o feichiogrwydd i saith oed. Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i ddatblygu blaenoriaeth ymchwil iechyd cyhoeddus ar gyfer y genhedlaeth nesaf yng Nghymru dros y deng mlynedd nesaf.
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn ynghylch ble mae'r bylchau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth o iechyd cyhoeddus yn y blynyddoedd cynnar. Gallwch wneud hynny drwy lenwi'r holiadur byr a ganlyn fydd yn cymryd oddeutu 10 munud.