Gwobr Arloesi sy’n dathlu ein gwaith – rhowch gynnig arni nawr!
Closing date: 18 October 2019
Rhowch gais i mewn nawr i gael cyfle i ennill Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant, sydd wedi’i noddi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ym mhedwerydd ar ddeg cyfarfod blynyddol Gwobrau Arloesi MediWales ar 4 Rhagfyr 2019.
Mae’r wobr hon i unrhyw un sydd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant i gyflenwi prosiect neu sydd wedi datblygu perthynas cydweithredu â ffocws penodol ar ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol. Dylai prosiectau fod wedi cael effaith bositif ar iechyd, llesiant a ffyniant y bobl yng Nghymru.
Ochr yn ochr â’r wobr y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei noddi, fe fydd y digwyddiad yn cyflwyno sawl gwobr ar draws categorïau’r diwydiant a’r GIG, gan gynnig llwyfan i nodi cyflawniadau rhagorol yn y sector gwyddor bywyd yng Nghymru, gan gynnwys:
Categorïau gwobrau’r diwydiant
- Arloesi
- Busnes newydd
- Partneriaeth â’r GIG
- Allforio
- Cyflawniad eithriadol
Categorïau gwobrau’r GIG
- Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant
- Rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg – Gwobr Effaith Uchel
- Arloesi o fewn GIG Cymru
- GIG Cymru’n Cydweithio â Diwydiant Cymru
Mae dros 300 o bwysigion a gwesteion yn dod ynghyd ar gyfer y noson wobrwyo i ddathlu cyflawniadau cymunedau gwyddor bywyd, technoleg iechyd a’r GIG. Eleni, bydd y digwyddiad yn mynd rhagddo yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Meddai Carys Thomas, Cyd-Gyfarwyddwr Interim Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “I gydnabod y gwaith ymchwil rhagorol sy’n mynd rhagddo bob dydd i wella bywydau cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru, mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fod yn Bartner Gwobrau ar gyfer y ‘Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant’.
“Rydyn ni’n annog pawb yn y GIG sy’n cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol i wneud cais, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn llawer o geisiadau rhagorol.”
I roi cynnig ar y Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant, anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi at Sam Tudor. Gallwch chi gysylltu â Sam hefyd i gael gwybodaeth am sut i wneud cais am unrhyw rai o’r gwobrau eraill. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 18 Hydref 2019.