Cyfleoedd Gyfra - Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

30-04-19

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer tri swydd newydd a chyffrous ym meysydd ymchwil.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr rhagorol sy’n gallu cysylltu meysydd ymchwil a pholisi drwy gynhyrchu ymchwil o safon uchel sy’n berthnasol i bolisi ac yn cael effaith amlwg ar bolisïau ac ymarfer. 

Mae’r swyddi newydd hyn yn cynnig cyfle unigryw i weithio yng nghanol y dadleuon presennol sy'n ymwneud â pholisi cyhoeddus, gan gynnwys materion Brexit, twf economaidd a ffyniant, cau'r bwlch cyrhaeddiad, a dyfodol ariannu'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Prentis – Cynorthwy-ydd Ymchwil

Mae’r Ganolfan yn chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy’n gallu dod â meysydd ymchwil a pholisi ynghyd, ac sy’n ymroddedig i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddiadau o safon uchel sy’n berthnasol i bolisïau. Dyma gyfle unigryw i weithio yng nghanol y dadleuon presennol sy’n ymwneud â pholisi, gan gynnwys materion megis Brexit, twf economaidd a ffyniant, cau’r bwlch cyrhaeddiad, ac ariannu’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

£27,025 - £31,302 y ffwyddyn (Gradd 5)

Dyddiad cau: 26th Mai 2019

Cael gwybod mwy


 

Cydymaith Ymchwil

Mae’r Ganolfan yn chwilio am Swyddog Ymchwili gyfrannu at ein rhaglen barhaus o waith gyda Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb a dealltwriaeth o bolisi cyhoeddus; ymrwymiad i bolisi ymchwil o ansawdd uchel; sgiliau cyfathrebu a threfnu da; a’r gallu i weithio’n effeithiol yn rhan o dîm ehangach y Ganolfan.

£33,199 - £39,609 y ffwyddyn (Gradd 6)

Dyddiad cau: 19th Mai 2019

Cael gwybod mwy


 

Swyddog Ymchwil

Mae’r Ganolfan yn chwilio am Swyddog Ymchwili gyfrannu at ein rhaglen barhaus o waith gyda Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb a dealltwriaeth o bolisi cyhoeddus; ymrwymiad i bolisi ymchwil o ansawdd uchel; sgiliau cyfathrebu a threfnu da; a’r gallu i weithio’n effeithiol yn rhan o dîm ehangach y Ganolfan.

£27,025 - £31,302 y ffwyddyn (Gradd 5)

Dyddiad cau: 09th Mai 2019

Cael gwybod mwy