Galwad am brosiectau i gefnogi digideiddio’r sector cyhoeddus (Hydref)
6-08-19
Dyddiad Cau: Bydd yr alwad yn cael ei chyhoeddii yn ystod hydref 2019
Cyllideb: 1 miliwn EUR
Nod trosfwaol yr alwad yw cyfuno ac integreiddio ymdrechion arloesol digidol yn seiliedig ar wybodaeth gydag ymchwil ar yr effaith gysylltiedig ar gymdeithas a defnyddwyr, yn seiliedig ar y ffactorau sy’n galluogi ac yn hyrwyddo trawsnewid digidol yn y sector cyhoeddus, er enghraifft technolegau newydd, arferion sefydliadol newydd a dulliau llywodraethu.
Nod y rhaglen yw cyflymu arloesi yn seiliedig ar wybodaeth a digideiddio gwasanaethau’r sector cyhoeddus ar draws y rhanbarth Nordig. Mae’n rhaid i’r prosiectau gynnwys cyfranogwyr o dair gwlad o leiaf, ac o leiaf dwy o’r rhain o wledydd cyd-ariannu Nordig: Norwy, y Ffindir, Sweden, Denmarc, Estonia, Latfia a’r Deyrnas Unedig. Ariennir hyd at ddeg prosiect ymchwil cydweithredol rhyngwladol gyda chyllideb o 1 miliwn EUR yr un fel uchafswm.
Cyhoeddir yr alwad am gynigion yn ystod hydref 2019. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.