Mynd i'r afael ag effaith iechyd digwyddiadau diweithdra torfol
7-11-18
Parodrwydd a fframwaith ymateb wedi'u cyhoeddi yn y Cyfnodolyn Iechyd Cyhoeddus.
Cafodd gwaith gan ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddigwyddiadau iechyd a diweithdra torfol (DDTau), o dan arweiniad Dr Alisha Davies ac yn cynnwys Lucia Homolova, Dr Charlotte Grey a’r Athro Mark Bellis ei gyhoeddi'n ddiweddar gan y Journal of Public Health.
Mae'r papur yn adlewyrchu gwaith y tîm ar Ddigwyddiadau Diweithdra Torfol (DDTau) – Atal ac Ymateb o Safbwynt Iechyd Cyhoeddus a amlygodd effaith DDTau ar iechyd unigolion yr effeithir arnynt.
Nid yw digwyddiadau diweithdra torfol yn anghyffredin ond eto nid oes cydnabyddiaeth dda o'r effaith ar iechyd a llesiant unigolion, ochr yn ochr â heriau ariannol a chyflogaeth posibl. Gall effeithiau niweidiol bara am ddegawdau gyda'r effaith ar aelodau o'r teulu bron mor fawr â'r effaith ar y rhai sy'n wynebu dileu swydd.
Meddai awdur yr adroddiad Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn gwybod bod cyflogaeth ac iechyd yn gydgysylltiedig, a bod cyflogaeth ddiogel yn dda ar gyfer ein hiechyd.
“Yn anffodus mae colli swydd ar raddfa fawr yn digwydd a gall yr effaith fod yn ddinistriol i'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol, a gall ymestyn i deuluoedd a chymunedau unigolyn.
“Yn rhyngwladol, nid yw'r digwyddiadau hyn yn anghyffredin ond mae llawer y gallwn ei wneud i atal, paratoi a chyfyngu'r effaith ar iechyd pan fyddant yn digwydd. Mae ein papur yn defnyddio profiadau wrth ymateb i ddigwyddiadau yn y gorffennol i lywio fframwaith gydag iechyd a llesiant wrth wraidd camau ataliol ac ymatebol.”
Er mwyn mynd i'r afael a'r materion hyn datblygodd y tîm ymateb i DDTau sy'n cael ei lywio gan iechyd cyhoeddus gydag wyth cam allweddol:
Mae'r fframwaith wyth cam yn nodi blaenoriaethau allweddol lle gall dulliau iechyd cyhoeddus helpu gyda nodi meysydd o risg yn gynnar a sicrhau bod ymatebion yn mynd i'r afael ag anghenion iechyd a llesiant pawb sy'n cael eu heffeithio gan gynnwys teuluoedd, y gymuned ehangach a grwpiau agored i niwed penodol, fel y diwaith hirdymor presennol.
Roedd mesurau ataliol eraill a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys ystyriaeth tymor hwy o ddatblygu sgiliau, buddsoddi ac arallgyfeirio, cyfrifoldeb cymdeithasol cyflogwyr, a chynyddu cydnerthedd unigol a chymunedol.