Ymuno ag astudiaeth
Diddordeb mewn cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil? Mae nifer o sefydliadau wedi ymrwymo i gael y cyhoedd i gymryd rhan mewn agweddau amrywiol ar ymchwil.
Cymru
Mae’r Rhwydwaith Cynnwys Pobl yn rhan o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n rhoi cyfle i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil. Gallant hefyd ddarparu hyfforddiant, treuliau ac arweiniad ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil.
Mae Doeth am Iechyd Cymru yn casglu gwybodaeth am iechyd a ffordd o fyw gan y cyhoedd yng Nghymru sydd wedi cofrestru i fod yn rhan o’r prosiect. Gellir defnyddio hyn wedyn i ateb cwestiynau ymchwil mawr am iechyd a lles a iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) yn cynnig lle i ymchwilwyr, clinigwyr a gwneuthurwyr polisïau ddod ynghyd a gwneud ymchwil fydd yn gwella iechyd a lles ar gyfer y rheiny sy’n byw yng Nghymru.
Cenedlaethol
Mae gan y sefydliadau cenedlaethol canlynol hefyd gyfleoedd i gymryd rhan;
UK Clinical Trials Gateway
Trials 4 Us
Arthritis Research UK (Elusen)
Cancer Research UK (Elusen)
Join Dementia Research
Sea Hero Quest – gêm symudol lle gall unrhyw un helpu gydag ymchwil dementia
Rhyngwladol
Mae gan y sefydliadau rhyngwladoll canlynol hefyd gyfleoedd i gymryd rhan;
World Health Organization (WHO) – Clinical Trials Search Portal
Byddwch yn rhan o’r gymuned ymchwil ehangach.