Ymchwil lechyd a Gofal Cymru

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhithwir cenedlaethol â sawl agwedd sy’n cael ei ariannu a’i oruchwylio gan Is-adran Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cymru.

Mae’n darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu gallu ym maes ymchwil a datblygu (YaD), ac mae’n cynnal nifer o gynlluniau ariannu ac yn rheoli dyraniad cyllid YaD y GIG yng Nghymru.

Ei nod yw creu a chefnogi ymchwil ragorol i wella iechyd a gofal pobl yng Nghymru ar draws ystod o gyflyrau a lleoliadau. Mae’n gwneud hyn trwy:

  • Ddarparu seilwaith i gynyddu gallu ymchwil
  • Darparu gwasanaeth cymorth yn ystod pob cyfnod o’r broses ymchwil
  • Cynnal cynlluniau cyllid ar gyfer prosiectau ymchwil o ansawdd uchel
  • Sicrhau ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil
  • Cydweithredu â’r GIG, gofal cymdeithasol, academia, diwydiant a’r trydydd sector

Mae’r seilwaith cymorth a chyflenwi ar draws Cymru yn cynnwys rhwydwaith o Swyddfeydd Ymchwil a Datblygu lleol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys y Swyddfa YaD yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gyda’i gilydd, maent yn rhoi cymorth ar gyfer datblygu, sefydlu a chyflenwi ymchwil.  Gall hyn gynnwys helpu ymchwilwyr i ddatblygu syniadau ymchwil a nodi costau, cyngor ac arweiniad ar brosesau ymchwil a gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer ymchwil neu ddarparu staff ymchwil i weithio gyda thimau gofal iechyd er mwyn darparu astudiaethau ymchwil. 

 

Beth ydy ymchil? gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae ymchwil yn ein helpu ni aros yn rhyfeddol. I gael gwybod am sut rydych chi’n gallu cael eich cynnwys mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, beth am siarad â’ch meddyg teulu, eich nyrs neu’ch darparwr gofal heddiw, neu ymweld â https://www.ymchwiliechydagofal.llyw.cymru/rhyfeddol/