Ymchwil lechyd a Gofal Cymru
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhithwir cenedlaethol â sawl agwedd sy’n cael ei ariannu a’i oruchwylio gan Is-adran Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cymru.
Mae’n darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu gallu ym maes ymchwil a datblygu (YaD), ac mae’n cynnal nifer o gynlluniau ariannu ac yn rheoli dyraniad cyllid YaD y GIG yng Nghymru.
Ei nod yw creu a chefnogi ymchwil ragorol i wella iechyd a gofal pobl yng Nghymru ar draws ystod o gyflyrau a lleoliadau. Mae’n gwneud hyn trwy:
- Ddarparu seilwaith i gynyddu gallu ymchwil
- Darparu gwasanaeth cymorth yn ystod pob cyfnod o’r broses ymchwil
- Cynnal cynlluniau cyllid ar gyfer prosiectau ymchwil o ansawdd uchel
- Sicrhau ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil
- Cydweithredu â’r GIG, gofal cymdeithasol, academia, diwydiant a’r trydydd sector
Mae’r seilwaith cymorth a chyflenwi ar draws Cymru yn cynnwys rhwydwaith o Swyddfeydd Ymchwil a Datblygu lleol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys y Swyddfa YaD yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gyda’i gilydd, maent yn rhoi cymorth ar gyfer datblygu, sefydlu a chyflenwi ymchwil. Gall hyn gynnwys helpu ymchwilwyr i ddatblygu syniadau ymchwil a nodi costau, cyngor ac arweiniad ar brosesau ymchwil a gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer ymchwil neu ddarparu staff ymchwil i weithio gyda thimau gofal iechyd er mwyn darparu astudiaethau ymchwil.
Beth ydy ymchil? gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae ymchwil yn ein helpu ni aros yn rhyfeddol. I gael gwybod am sut rydych chi’n gallu cael eich cynnwys mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, beth am siarad â’ch meddyg teulu, eich nyrs neu’ch darparwr gofal heddiw, neu ymweld â https://www.ymchwiliechydagofal.llyw.cymru/rhyfeddol/