Rajendra Kadel

Rajendra Kadel

Email Rajendra Economegydd Iechyd

Ymunodd Rajendra Kadel ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth 2019 fel Economegydd Iechyd. Mae’n Economegydd Iechyd profiadol gyda chefndir cryf ym maes iechyd y cyhoedd. Mae Rajendra yn gyfrifol am gyflwyno’r achos economaidd dros raglenni iechyd y cyhoedd a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn econometreg, dadansoddi effeithiolrwydd cost, elw cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI), asesu technoleg iechyd, modelu penderfyniadau yn ddadansoddol, a gwyddoniaeth data mawr yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithiodd Rajendra yn Ysgol Economeg Llundain (economeg iechyd meddwl - 2013 i 2019), Achub y Plant (rhaglen iechyd mamau a phlant - 2011), Medical Emergency Relief International (rhaglen iechyd mamau a phlant a rheoli trychinebau - 2007 i 2010) a’r Adran Gwasanaethau Iechyd /Nepal (cwmpas iechyd cyffredinol - 2002 i 2004).

Mae gan Rajendra Radd Baglor Iechyd y Cyhoedd, Gradd Meistr Iechyd y Cyhoedd, Gradd Meistr Ewropeaidd mewn Systemau Iechyd Rhanbarthol, a Gradd Meistr y Celfyddydau mewn Cymdeithaseg. Cwblhaodd Rajendra Radd Meistr mewn Athroniaeth (Economeg Iechyd) yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) yn 2018 yn ystod cyfnod ei swydd yn LSE.