Michael Seaborne

Michael Seaborne

Email Michael Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth

Ymunodd Mike ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth 2019 fel Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth. Rôl Mike yw sicrhau bod gwybodaeth a darganfyddiadau’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) yn cael eu trosi a’u trosglwyddo’n arferion er budd iechyd y cyhoedd a’u bod ar gael i ddatblygu polisi yng Nghymru. Mike yw’r cyswllt rhwng ymchwil academaidd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar wneuthurwyr polisi iechyd cyhoeddus.

Prif ffocws Mike ar hyn o bryd yw cydlynu prosiect sy’n ceisio canfod bylchau mewn gwybodaeth ymchwil ar gyfer iechyd cyhoeddus yn y blynyddoedd cynnar (rhwng 0 a 7 oed) ar draws pob sector a blaenoriaethu’r anghenion hynny ar gyfer datblygu ymchwil yn y dyfodol.

Cyn i Mike ddechrau gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru, cwblhaodd radd Meistr Ymchwil mewn iechyd plant yn Sefydliad Iechyd Plant, Coleg y Brifysgol, Llundain. Bu’n gweithio hefyd fel Fferyllydd Clinigol Pediatrig Arbenigol yn Ysbytai’r Santes Fair, Great Ormond Street, Coleg y Brenin a’r Royal Brompton yn Llundain. Enillodd radd Meistr mewn Fferylliaeth ym Mhrifysgol De Montfort, Caerlŷr, yn 2005 a chofrestrodd gyntaf fel fferyllydd cymwysedig llawn yn 2006.